Ein Gwaith

 

Cymru a Lesotho

Gwneud Cyfraniad

Cymryd Rhan

Mae Cymru a Lesotho yn wledydd sydd â byd o wahaniaeth rhyngddynt – ond sydd â chymaint yn gyffredin. Gwerthoedd a rennir, straeon gwych a phobl y mae eu cynhesrwydd yn disgleirio

Yma rydym yn taflu goleuni ar ein gwaith i gael cipolwg ar yr hyn y gellir ei gyflawni. O hyfforddiant iechyd meddwl i rygbi i sicrhau bod dysgwyr yn cael llais a dealltwriaeth gref. Pynciau gwahanol, a’r cwbl yn gymorth i gyflawni dyfodol disgleiriach.

Addysgu yn Lesotho - Gwaith yr Elusen Dolen
Mentora Athrawon
Mae athrawon a darlithwyr o Gymru a Lesotho yn cydweithio i wella dealltwriaeth a phrofiad dysgwyr yn y ddwy wlad. Mae sgiliau digidol newydd wedi’u dysgu ar draws y bwrdd.
Walk the Globe Lethoso - Elusen Dolen

Cerdded y Daith Fyd-eang
Mae’r prosiect hwn wedi dwyn ynghyd pobl ifanc ar draws 12 gwlad yn Ewrop i gydweithio i gyflawni Nodau Datblygiad Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn eu cymunedau lleol. Cynrychiolir Cymru gan Gyngor Sir Gâr sy’n gweithio mewn partneriaeth â Dolen.

Gwnïo Masgiau

Ymateb i COVID
Mae Dolen wedi cael tri grant i gefnogi’r Ymateb Brys i COVID yn Lesotho yn y meysydd canlynol:

  • Meddygon ar y Rhaglen Hyfforddi Meddygaeth Deuluol
  • Clwb Gwnïo yn Thaba Tseka
  • Rhaglen addysg dal i fyny
Gwaith Iechyd Meddwl - Elusen Dolen Lesotho
Iechyd Meddwl
Mae rhoi’r flaenoriaeth haeddiannol i iechyd meddwl gwael yn broblem ym mhob cwr o’r byd. Mae gwirfoddolwyr Dolen wedi defnyddio rhaglen mhGap (Bwlch Iechyd Meddwl) Sefydliad Iechyd y Byd i gefnogi arbenigwyr iechyd yn Lesotho i roi diagnosis ac ymdrin â’u cleifion mewn modd dichonadwy.
Ymolchi - Elusen Dolen Lesotho
Dŵr, Glanweithdra a Hylendid (WASH)
Mae diffyg mynediad at ddŵr a glanweithdra diogel yn atal nifer o bobl yn Lesotho rhag cyflawni eu potensial – i gael addysg, byw bywyd iach a bod yn ddiogel yn ariannol. Gall camau syml newid bywyd plentyn.
Cwrs Cymorth Cyntaf

Hyfforddiant Cymorth Cyntaf
Daeth Dolen a Sefydliad y Groes Goch yn Lesotho at ei gilydd i ddarparu hyfforddiant Cymorth Cyntaf sylfaenol i’r heddlu a swyddogion cywiro lleol yn Thaba Tseka. Oherwydd y pandemig, rhannwyd adnoddau ar-lein i gyrraedd grŵp ehangach o bobl.

Rygbi - Gwaith Elusen Dolen Lesotho
Academi Rygbi
Mae Academi Rygbi Lesotho yn cyflwyno pobl ifanc mewn ysgolion i rygbi. Fel rhan o’r rhaglen, mae hyfforddwyr yn cyfleu negeseuon pwysig ynghylch gwahanol agweddau ar fyw’n iach i’r cyfranogwyr.
Cysylltiadau Ysgol - Elusen Dolen Lesotho
Cysylltu Ysgolion
Ers 1985, mae miloedd o blant ledled Cymru a Lesotho wedi dysgu gwersi gwerthfawr ynghylch beth mae bod yn ddinesydd byd-eang yn ei olygu, gyda chymorth Dolen Cymru. Plant yn cael cyfle i ofyn i athrawon ym mhen draw’r byd, wyneb yn wyneb, sut beth yw bywyd iddynt hwy a’u dysgwyr.
Delwedd Cofrestru Dolen Cymru - Pobl Lesotho

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close