Cerdded y Daith Fyd-eang

 

EFFAITH Y PROSIECT

Gwneud Cyfraniad

Cymryd Rhan

Roedd cael gwahoddiad i gymryd rhan yn ‘Cerdded y Daith Fyd-eang’ yn gydnabyddiaeth wych i ni’.

Setempe Phoka, Pennaeth

Cysylltu â Lesotho

Fe wnaeth y prosiect ategu’r rhaglen Cysylltu Ystafelloedd Dosbarth trwy Ddysgu Byd-eang, a thrwy hyn rydym wedi cysylltu ysgolion yng Nghymru ag ysgolion yn Lesotho er mwyn gwella Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang yn y ddwy wlad. Roedd 89% o ysgolion Walk the Global Walk hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen Cysylltu Ystafelloedd Dosbarth â Lesotho, ac yn ystod blwyddyn gyntaf WGW bu modd inni gynnwys athrawon o Basotho yn ein digwyddiad arddangos blynyddol yn Sir Gaerfyrddin.

Watch this amazing film made about this project with young people’s voices prominent.

YNGLŶN Â’R PROSIECT

Mae’r prosiect 3 blynedd hwn wedi galluogi pobl ifanc o 12 o wledydd Ewropeaidd i weithio gyda’i gilydd i wireddu Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) y Cenhedloedd Unedig yn eu cymunedau lleol. Cynrychiolir Cymru gan Dolen Cymru Lesotho a Chyngor Sir Gâr. Mae’r prosiect yn berthnasol iawn i’r cwricwlwm newydd, sydd wedi ein helpu i ymgysylltu ag ysgolion a chynyddu nifer y cyfranogwyr o 6 ysgol yn ystod Blwyddyn 1 i 18 ysgol yn ystod Blwyddyn 3.

Yn ystod Blwyddyn 3, hyfforddwyd 24 athro yn lleol a 50 athro yn genedlaethol

Crëwyd 3 phecyn adnoddau dwyieithog ar gyfer NDC 11, 13 ac 16

Yn ystod Blwyddyn 3 cymerodd mwy na 5,000 o ddisgyblion o Sir Gaerfyrddin ran mewn gweithgareddau a oedd yn hyrwyddo NDC 16

Aeth 100 o Nod-geidwaid Byd-eang ati i gael hyfforddiant a chymryd camau er budd NDC 16

Dyma oedd yr agweddau allweddol ar y prosiect:

Addysgu a dysgu am faterion byd-eang ar draws y cwricwlwm

Cymell a grymuso dysgwyri ddod yn ddinasyddion byd-eang gweithredol

Codi ymwybyddiaeth o’r Nodau Datblygu Cynaliadwy, a’u cefnogi

Ffocws y Nodau Datblygu Cynaliadwy

Ffocws 2018/19: NDC 11 Cymunedau Cynaliadwy

Ffocws 2019/20: NDC 13 Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd

Ffocws 2020/21: NDC 16 Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cryfion

Darllenwch yr Astudiaeth Achos ar Gymunedau Cynaliadwy

Lawrlwythwch ein Hadroddiad ar Effaith y Prosiect Walk the Global Walk yng Nghymru a Lesotho.

Delwedd Cofrestru Dolen Cymru - Pobl Lesotho

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close