Academi Rygbi

 

Lesotho

Gwneud Cyfraniad

Cymryd Rhan

Academi Rygbi - Lesotho Dolen Cymru

Proffil Chwaraewr

ENW: Alex Ncheke
OED: 21
SAFLE: Asgellwr
YSGOL: Ysgol Uwchradd Lesia

“Dechreuais chwarae rygbi tua 2015 pan ddaeth Hyfforddwr Roy i’n hysgol. Cyn hynny, arferwn chwarae llawbel a byddwn yn gwneud athletau. Doeddwn i erioed wedi chwarae o’r blaen, ond roeddwn wedi gweld rygbi ar y teledu. Roeddwn yn teimlo’n ofnus braidd. Dywedodd yr Hyfforddwr Roy wrthyf fod gennyf botensial ac fe anogodd fi i ymuno â’r Maseru Warriors lle dysgais sgiliau newydd. Symudais o safle Rhif 8 i’r safle asgellwr ar gyfer gêm yn Ne Affrica. Roedd honno’n wers fawr, ond sgoriais gais.

“Addysgodd yr Hyfforddwr Roy lawer i ni. Bu iddo ein haddysgu ynghylch cydraddoldeb rhywiol. Bu iddo ein haddysgu sut i ddiogelu ein hunain rhag HIV, fel gwisgo menig wrth orchuddio clwyf ac y dylai genethod beidio â chael perthnasau â hen ddynion. Bu iddo ein haddysgu bod ysmygu yn ddrwg, y gall roi cancr yr ysgyfaint i chi ac na ddylem ysmygu pan ydym yn gwneud chwaraeon, oherwydd gall ein calon guro dwywaith cyn gyflymed. Bu iddo ein haddysgu y gall cwrw wneud niwed i’ch iau.

“Mae rygbi yn gymaint o gymorth i’ch bywyd. Gwnaeth rygbi fy nghynorthwyo i ganolbwyntio yn yr ysgol. Ar ôl sesiynau hyfforddi, byddwn yn gwneud fy ngwaith ysgol. Cefais farciau da – gwell na’m cyfeillion nad oeddynt yn chwarae rygbi.

“Dydw i ddim yn yfed nac ysmygu, oherwydd fy mod eisiau bod yn iach. Yn fy nhref yn Ha Tsolo, mae bechgyn yn ymddwyn fel gangsters, yn eistedd mewn bariau. Gallwn fod wedi ymuno â nhw – does dim i’ch cadw chi’n brysur. Nawr byddaf yn mynd i’r gampfa ac yn gwneud ymarfer corff.”

Academi Rygbi

Mae Dolen yn gweithio mewn partneriaeth â Ffederasiwn Rygbi Lesotho i gyflwyno rhaglen rygbi i blant ysgol yn Lesotho, ac ym mis Medi 2014 lansiwyd Academi Rygbi Lesotho.

Mae’r rhaglen hon yn gweithio gydag ysgolion i gyflwyno pobl ifanc i rygbi a hefyd cyfleu negeseuon pwysig ynghylch byw’n iach. Mewn gwlad eithriadol o dlawd lle mae 1 mewn 4 o’r boblogaeth yn bositif am HIV, gall rygbi gynnig cyfle i blant fod yn rhan o dîm a bod yn rhywbeth i weithio’n galed tuag ato, gan eu haddysgu hefyd am faterion iechyd cyffredin a sut i’w hosgoi.

Delwedd Cofrestru Dolen Cymru - Pobl Lesotho

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close