Ein Heffaith

 

Gwneud Cyfraniad

Cymryd Rhan

Ein Heffaith

Mae Dolen Cymru Lesotho yn elusen fechan sy’n perfformio’n well na phob disgwyl ac i’n holl wirfoddolwyr, cefnogwyr a staff mae’r diolch am hynny. Beth am i chi ddarllen ein Hadroddiadau Blynyddol ar gyfer y blynyddoedd diwethaf i weld drosoch eich hun yr hyn a gyflawnwyd ar gyllideb fechan.

Annual Report 20-21 photo

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21

Rydym yn ymfalchïo dros y gwaith aruthrol a gyflawnwyd dan amgylchiadau heriol yn ystod y pandemig. Roedd mabwysiadu dulliau newydd o weithio ar-lein a sicrhau llesiant wrth wraidd popeth a wnaethom.

    Basotho Ifanc

    Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019-20

      Gyda dechrau’r pandemig COVID eleni rydym yn falch o’n llwyddiannau gyda WASH, mentora a lleoliadau athrawon yng Nghymru a Lesotho, a’r rhaglen rygbi anhygoel a aeth i’r afael â materion cymdeithasol.
    Basotho Ifanc

    Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2018-19

      Rhaglen amrywiol yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer Iechyd Meddwl (mHGap), WASH (dŵr, glanweithdra a hylendid), hyfforddiant a mentora athrawon a chefnogi Academi Rygbi Lesotho. Fe wnaeth Cerdded y Daith Fyd-eang ymgysylltu dysgwyr yng Nghymru i edrych ar SDG 11 a rhannu eu dysg gydag ymwelwyr i Gymru o Basotho.
    Basotho Ifanc

    Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18

    Toiledau, addysgu a hyfforddi! Blwyddyn orlawn gan staff a gwirfoddolwyr. Darllenwch ein hadroddiad i gael mwy o fanylion yn cynnwys diweddariadau am ffisiotherapi, iechyd meddwl a rygbi.

    Basotho Ifanc

    Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17

      Yn ogystal â’n gweithgareddau arferol o leoliadau athrawon, glanweithdra a hylendid, rhaglenni llythrennedd a rygbi, fe wnaethom lansio apêl frys ar gyfer sychder difrifol yn Lesotho gyda dros £25,000 wedi’i godi ymhen wythnosau.

    By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

    The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

    Close