Ymateb Brys i COVID
Gwneud Cyfraniad
Cymryd Rhan
Meddygon ar y cwrs gyda’r deunydd Cyfarpar Diogelu Personol a gyfrannwyd fel rhodd
Ymateb Iechyd i COVID
Gan ddefnyddio cyllid gan ymateb Brys i COVID Cymru ac Affrica ac Awyr Las (elusen y GIG gogledd Cymru), llwyddodd Dolen i gefnogi’r fenter ymateb i COVID hon yn Lesotho.
Roedd y prosiect hwn yn cefnogi meddygon yn unig raglen hyfforddiant meddygol ôl-raddedig Lesotho. Roedd yn darparu e-gefnogaeth iechyd meddwl gan Wasanaethau Llesiant a Chymorth Staff dan arweiniad seicolegydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ogystal â dysgu o bell. Roedd hefyd yn darparu Cyfarpar Diogelu Personol mawr ei angen i’r meddygon a’u cyfleusterau iechyd.
Mae’r adnoddau ar gael ar gyfer y meddygon hyn ac eraill ledled Lesotho (a Chymru) ar dudalen Padlet Dolen yma.
Clwb Gwnïo y Groes Goch Thaba Tseka
Ymateb i COVID – Masgiau
Mae’r prosiect hwn yn galluogi aelodau bregus o gymuned Thaba Tseka i geisio gwasanaethau lleol, megis mynychu canolfannau iechyd/ysbytai a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel drwy ddefnyddio masgiau wyneb ailddefnyddiadwy am ddim gan y clwb gwnïo lleol. Croesawodd aelodau profiadol o Groes Goch Thaba Tseka aelodau newydd i ddysgu sgiliau newydd a chynhyrchu’r masgiau
Dosbarthodd y pwyllgor lleol y masgiau lle’r oedd eu hangen fwyaf a darparu canllawiau ynghylch sut i warchod y masgiau a rhoi mwy o wybodaeth gyffredinol ynghylch arferion hylendid da i atal lledaeniad COVID-19.
Gwaith dal i fyny
Gwaith My Hero is You
Ymateb i COVID – Addysg
Mae dysgwyr yn Lesotho wedi’u heffeithio’n sylweddol gan y pandemig COVID. Nod y prosiect hwn yw llenwi’r bylchau mewn dysg drwy ddatblygu sgiliau digidol athrawon a defnyddio darllediadau radio i ddysgwyr a’u teuluoedd mewn cymunedau gwledig anodd eu cyrraedd.
Anogir dysgwyr ac athrawon i hyrwyddo dysgu gweithredol yn y cartref drwy wrando ar ddarllediadau radio wedi’u comisiynu’n arbennig yn seiliedig ar Jolly Phonics. Bydd y rhaglenni hyn yn cael eu defnyddio yn y dyfodol fel adnodd i athrawon dan hyfforddiant ac athrawon eraill ledled Lesotho.
Gan ddefnyddio cyfieithiadau lleol o ‘My Hero is You’ ac ‘Action for Heroes’ gan Sefydliad Iechyd y Byd/UNICEF, mae athrawon yn rhoi cefnogaeth llesiant i ddysgwyr ar ôl rhannu arfer dda mewn Cynhadledd Llesiant ar-lein a gynhaliwyd gan Dolen.
Bydd gwersi yn parhau dros radio, hyd yn oed wrth i ysgolion agor, yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr ‘ddal i fyny’ ac atgyfnerthu dysg yn y cartref, yn ogystal ag annog plant i ail-ymrestru yn yr ysgol.