Ein Hanes
Cymru a Lesotho
Gwneud Cyfraniad
Cymryd Rhan
‘Tynnu het i’r cyswllt newydd rhwng Cymru a Lesotho – Mawrth 1985 yn Swyddfa Cymru’
Yr Uchel Gomisiynydd O T Sefako a Chadeirydd Dolen Cymru, Dr Carl Clowes
SUT Y DECHREUODD Y CYFAN
Yn ystod Newyn Ethiopia yn 1984, teimlodd bobl Cymru bod rhaid iddynt ymateb i’r angen yn Affrica. Roedd y Gymdeithas Ddinesig yng Nghymru’n awyddus i gydweithio gyda gwlad yn Affrica i ymateb i anghenion pobl drwy gryfhau cysylltiadau rhyngwladol, yn hytrach na dod yn asiantaeth gymorth. Dewiswyd Lesotho oherwydd ei thebygrwydd â Chymru o ran maint, tirwedd, dwyieithrwydd a threftadaeth ddiwylliannol.
Lansio
Yn 1985 lansiwyd Dolen Cymru fel partneriaeth ddwy ffordd rhwng Cymru a Lesotho. Drwy ddealltwriaeth a chyfeillgarwch byddai’r ddwy wlad yn ymwneud â’i gilydd, a thrwy ymwneud, yn cydweithio, a byddai cysylltiadau yn cael eu magu gan unigolion, cymunedau a mudiadau, yng Nghymru ac yn Lesotho fel ei gilydd, a fyddai’n arwain at weithredu cyffredin mewn maes penodol.
Eisiau gwybod mwy am sut y dechreuodd y cyfan? Darllenwch ‘Wales’ African Twin’ gan Paul Williams.