Cymryd Rhan
DOLEN CyMRU
Dysgwch am ddigwyddiadau herio, cyfrannu’n rheolaidd, dod yn Llysgennad a ffyrdd rhad ac am ddim i’n cefnogi ni hyd yn oed!

P’un a yw hyn yn rhan o weithgaredd sydd wedi’i drefnu neu’n nod personol, mwynhewch ychydig o hwyl a helpwch ein ffrindiau a’n cydweithwyr yn Lesotho.

Bob dydd, mae athrawon fel Mme Mohlomi yn edrych ar ffyrdd i helpu eu dysgwyr i gyflawni eu potensial. Weithiau mae hyn yn golygu darparu dŵr ar gyfer golchi dwylo yn ogystal â dulliau addysgu arloesol pan fydd adnoddau'n brin. Bydd rhodd fisol yn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial a thorri i ffwrdd o dlodi.


Mae angen mwy o bobl ar Dolen i wybod am y gwaith rydyn ni'n ei wneud yn Lesotho. A allech chi fod yr un i ddweud wrthyn nhw? Byddwn yn eich hyfforddi ac yn rhoi popeth sydd ei angen arnoch i siarad â grwpiau cymunedol a'u cymell i chwarae rhan.

Rydym yn chwilio am bobl ifanc 18-25 oed i ymuno â’n ‘Pwyllgor Menter Ieuenctid’. Grŵp o bobl a fydd yn gweithio gyda'i gilydd ar-lein i gydweithio, arloesi a chynhyrchu eich ymgyrch eich hun.

Cefnogwch Dolen heb iddo gostio unrhyw beth i chi trwy ymuno â digwyddiad neu hyd yn oed yn haws codi arian ‘am ddim’ trwy siopa ar-lein!