Cysylltu Ysgolion

 

Gwneud Cyfraniad

Cymryd Rhan

Cysylltiadau Ysgol - Gwaith Elusen Dolen Cymru Lesotho

Gweithiodd Helen a Mme Mamatsoane gyda’i gilydd yn Ysgol Gynradd Thaba Tseka ac Ysgol San Sior yn 2016

Cysylltu Ysgolion

Rydym wedi sefydlu a chynnal cannoedd o gysylltiadau ysgolion ledled Cymru a Lesotho dros y blynyddoedd, gan gyrraedd dros 40,000 o ddisgyblion. Bydd sawl ysgol yn tystio bod y partneriaethau hyn wedi bod o gymorth i ddod â dysgu byd-eang yn fyw yn eu dosbarthiadau ac wedi’u caniatáu i fagu perthnasoedd cynaliadwy, cyfoethog, sydd o fudd i’r ddwy ochr. Gallwn gefnogi eich prosiect cwricwlwm neu ddigwyddiad dysgu thematig, dod o hyd i ysgol bartner i chi, darparu hyfforddiant i athrawon a’ch cynorthwyo chi i wneud cais am ragor o gyllid.

Ar hyn o bryd, mae Cysylltu Dosbarthiadau y British Council drwy’r Rhaglen Dysgu Byd-eang yn ariannu 9 clwstwr sy’n cwmpasu 43 o ysgolion a 83 o athrawon yn uniongyrchol. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys hyfforddiant i athrawon, prosiectau ar y cyd disgybl i ddisgybl, ymweliadau â’r ddwy ochr a dathliadau. Oherwydd COVID-19, mae’r prosiectau hyn yn cael eu cynnal yn rhithiol ond yn dal i fod yn gynhyrchiol a buddiol.

Gall eich ysgol chi ymgysylltu â hyn am £20

Cysylltwch â’n Swyddog Addysg yma

i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut allwch archwilio’r Nodau Byd-eang neu gysylltu eich ysgol.

Delwedd Cofrestru Dolen Cymru - Pobl Lesotho

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close