Daeth gweithwyr addysg proffesiynol o Lesotho, De Affrica a Chymru at ei gilydd i rannu straeon am sut mae pwyslais ar les yn siapio bywydau dysgwyr yn Lesotho.

Roedd y gynhadledd, a drefnwyd gan Dolen Cymru Lesotho, yn trafod cefnogi trosglwyddo ar bob lefel, sut gall y pecyn cymorth Coeden Bywyd helpu dysgwyr ac oedolion fel ei gilydd a phwysigrwydd gwrando ar lais y dysgwr.

Dysgodd y rhai a oedd yn bresennol am bwysigrwydd annog dysgwyr hyderus sy’n gallu codi eu llais mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Rhannwyd enghreifftiau o hyn gan Ysgol Gynradd Mount Royal yn Leribe lle mae ganddyn nhw ddiwrnod cyfan wedi’i neilltuo ar gyfer gweithgareddau lles. Mae hyn yn cynnwys pob dysgwr yn defnyddio iaith arwyddion am y diwrnod. Cafwyd enghreifftiau eraill gan Ysgol Thabana Tso’oana lle cyflwynodd disgyblion farddoniaeth ar gyfer ein cylchlythyr misol yn archwilio beth mae bod yn arwr yn ei olygu iddyn nhw.

Morija Hub

Gwahoddwyd grŵp o athrawon ym Matsieng, sydd wedi’i chysylltu â Thyddewi, i ymuno â’r gynhadledd gyda’r sefydliad lleol Hub Morija. Cawsant eu hysbrydoli gymaint, maent wedi trefnu i gwrdd bob dau fis i’r athrawon gael trafod materion yr ymdriniwyd â hwy yn ystod y cynadleddau. Maen nhw wir yn eu mwynhau ac yn gobeithio recriwtio mwy o athrawon i gymryd rhan.

Dywedodd un o’r rhai a oedd yn bresennol:

“Mae hyn yn wirioneddol wych oherwydd nawr mae gennym y sgiliau i ddelio â phlant ifanc… Mae pwy bynnag a feddyliodd am y syniad yma yn haeddu medal aur! Diolch Dolen Cymru! ”

Gallwch wylio’r gynhadledd yma

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close