Testun tristwch mawr i Dolen Cymru Lesotho yw’r newyddion am farwolaeth ein Llywydd Gydol Oes, Dr Carl Clowes. Roedd yn un o sylfaenwyr Dolen Cymru ac yn rhan annatod o fagu’r cyswllt rhwng Cymru a Lesotho yn 1985. He was a founding member of Dolen Cymru and instrumental in setting up the link between Wales and Lesotho in 1985.

Dyma unigolyn a oedd o flaen ei amser o ran cydnabod a magu cyswllt parhaus rhwng y ddwy wlad yn seiliedig ar bartneriaeth, rhannu a dysgu ar y cyd. Ynghyd ag eraill yng Nghymru, adnabu sawl cymhariaeth rhwng teyrnas fynyddig a thirgaeedig Lesotho yn Affrica Ddeheuol a thywysogaeth fynyddig Cymru ym Mhrydain Fawr. Mae gan y ddau le sawl nodwedd ddaearyddol yn gyffredin, yn ogystal â phoblogaeth gyffelyb. Mae’r ddau le wedi bod yn ddibynnol ar amaethyddiaeth, a ffermio defaid yn enwedig. Mae gan y ddau le gymunedau lleol cryf, ac yn ymfalchïo yn eu hiaith a’u diwylliant, ac wrth eu bodd â chân.

Dr Carl Clowes, Llywydd Gydol Oes, Dolen
‘Tynnu het i’r cyswllt newydd rhwng Cymru a Lesotho – Mawrth 1985 yn Swyddfa Cymru’ Yr Uchel Gomisiynydd O T Sefako a Chadeirydd Dolen Cymru, Dr Carl Clowes

Caniataodd Carl sawl cyfnewidiad rhwng unigolion a grwpiau yn y ddwy wlad, gan gynnig profiadau sydd wedi newid bywydau. Mae sefydliadau wedi’u cysylltu. Mae cyfeillgarwch wedi’u datblygu. Mae ei brofiad a’i ddealltwriaeth o ddiwylliant, iaith, addysg, yr amgylchedd a gofal iechyd wedi llywio’r prosiectau sydd wedi’u cyflawni gan Dolen, a thrwyddi.

Yn sgil brwdfrydedd Carl am Lesotho, Cymru a’u pobl a’r cyfleoedd a helpodd eu darparu i gynifer er mwyn gwella eu potensial mewn cymaint o ffyrdd a chynorthwyo dealltwriaeth am ddinasyddiaeth fyd-eang, fe’i dyfarnwyd ef â’r anrhydedd uchaf posibl y gellir ei gyflwyno gan Frenin Lesotho, a gofynnwyd iddo fod yn Gonswl Anrhydeddus ar gyfer Lesotho yng Nghymru, swydd y parhaodd i fod ynddi.

Mae wedi parhau’n gwbl ymrwymedig i waith Dolen Cymru Lesotho, ac wedi bod ynghlwm ag ef hefyd, gan ein helpu ni i ganolbwyntio ar fudd i’r naill ochr a chydnabod pa mor unigryw yw Cymru a Lesotho yn y byd.

Bydd colli Carl yn enfawr ac estynnwn ein cydymdeimlad i Dorothi a’i deulu sydd, fel yntau, wedi ymddiddori yn Lesotho a gwaith Dolen Cymru.

Paul Myres
Cadeirydd Dolen Cymru Lesotho

**DIWEDDARIAD**

Gwasanaeth angladd preifat i’r teulu yn unig yn Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn dydd Sadwrn, 18fed Rhagfyr a rhoddir i orffyws ym Mynwent Llanaelhaearn, gyda gwasanaeth cyhoeddus o goffad a dathliad o fywyd i ddilyn yn Neuadd y Nant, Nant Gwrtheyrn am 2.00 o’r gloch. Derbynnir rhoddion er cof yn ddiolchgar tuag at Pwyllgor Feddygol Dolen Cymru a Hosbis Dewi Sant trwy law Ifan Hughes, Ymgymerwr Angladdau, Ceiri Garage, Llanaelhaearn. Ffôn 01758 750238.

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close