Dathlodd Dolen Cymru Lesotho Ddiwrnod Plant Byd-eang ym mis Tachwedd gyda Chynhadledd Addysg ar-lein hynod lwyddiannus. Gwrandawodd a rhannodd dros 50 o unigolion o Lesotho a Chymru hanesion o lwyddiant mewn ysgolion a cholegau o 2021.
Gwrandawodd y rhai a fynychodd ar 14 o siaradwyr anhygoel yn siarad am ddatblygiad a dysgu proffesiynol ysgogol ar gyfer cefnogi dysgwyr yn Lesotho.

Dywedodd Sharon Flint, Swyddog Addysg Dolen,
“Fel y gwyddom, mae 2021 wedi bod yn heriol iawn ar draws y byd. Roedd gwrando ar ymrwymiad ein cydweithwyr yn Lesotho yn galonogol iawn.
“Gwnaethom hefyd rannu ein myfyrdodau olaf ar ein prosiect 3 mlynedd ‘Walk the Global Walk’. Mae ysgolion Sir Gaerfyrddin wedi gweithio’n ddi-flino er gwaethaf y pandemig i ysgogi eu Gôl-geidwaid Byd-eang ar gyfer codi ymwybyddiaeth o Amcanion Datblygiad Cynaliadwy yn eu hysgolion a chymunedau.”

Darllenwch fwy am brosiect ‘Walk the Global Walk’ a’i effaith yma.



