Ymunwch â chefnogwyr, ffrindiau a gwirfoddolwyr Dolen Cymru Lesotho am noson o godi arian, bwyd blasus, a dawnsio.
Mae tocyn £20 yn cynnwys:
+ Sesiwn blasu dawnsio llinell gan R&M Line Dance
+ Pryd o fwyd gan Oasis
+ Gwydraid o prosecco/lager
Bydd y Neuadd Farmor yn y Deml Heddwch, Caerdydd yn llawn chwerthin, gemau, a lliw wrth i ni godi arian at waith hanfodol Dolen yn cyfoethogi cymunedau yng Nghymru a Lesotho, dolen wrth ddolen.
18 Tachwedd
7pm – Hanner nos
Y Deml Heddwch, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3AP
Cod gwisg – lliwiau llachar (Croeso i chi wisgo seshoeshoe os oes gennych un).
Cofiwch eich esgidiau dawnsio!
Cefnogir y digwyddiad hwn yn hael gan Landscape for Learning, arbenigwyr offer dysgu plant yn yr awyr agored yng Nghymru: www.landscapes4learning.com
PRYNWCH DOCYNNAU yma



