Paul Myres
Paul Myres
Michael GermanMae’r Arglwydd (Michael) German yn Aelod o Dŷ’r Arglwyddi, ac mae wedi bod yn Ddirprwy Brif Weinidog ac arweinydd y Blaid yn y Cynulliad Cenedlaethol, fel ydoedd. Mae’r Arglwydd German wedi ymweld yn gyson â Lesotho ac mae wedi ymgysylltu â Senedd Lesotho i gryfhau eu gweithredu democrataidd. Bu’n helpu i gyfryngu’r broses o lofnodi’r protocol partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Lesotho, ac roedd yn rhan fawr o ymweliad swyddogol Ei Fawrhydi’r Brenin Letsie i Gymru.
Cyn iddo gychwyn ei yrfa lawn amser mewn gwleidyddiaeth, roedd yn athro Ysgol Uwchradd yng Nghaerdydd yn wreiddiol, ac yna bu’n bennaeth ar Uned Ewropeaidd CBAC. Gwasanaethodd fel Cynghorydd Dinas yng Nghaerdydd am 12 mlynedd.
Yn Nhŷ’r Arglwyddi mae ganddo ddiddordeb brwd mewn materion datblygu rhyngwladol, gan gynnwys Teyrnas Lesotho. Ar hyn o bryd mae’n Gomisiynydd Tŷ’r Arglwyddi ac yn Gadeirydd Côr y Senedd.
By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information
The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.