
Roedd llygaid y byd ar staff addysg Dolen mewn gweminar a gafodd ei threfnu gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) oedd yn dangos sut cafodd dulliau arloesol eu defnyddio yn Lesotho i ymgysylltu dysgwyr ag iechyd meddwl a llesiant seicogymdeithasol yn fyd-eang yn ystod y pandemig. Cafwyd cyflwyniadau eraill o India, Ffrainc a Médecins Sans Frontières.
Bu Sharon Flint, Swyddog Addysg o Gymru, ag Amelia Motsitsi-Msiza o Lesotho, yn egluro sut y dysgwyd ffyrdd i ddysgwyr ymdopi yn ystod y pandemig, gan ddefnyddio llyfr ISAAC ‘My Hero is You’. Datblygwyd y llyfr gan blant ar gyfer plant, ac roedd yn cynnwys gwybodaeth glir ar olchi dwylo a phellter corfforol, ymdeimlad o undod ac roedd yn ffordd i helpu plant ymdopi â rhai o wirioneddau pandemig, hynny ydi, methu gweld ffrindiau, aros gartref a cholli perthnasau.
Gweithiodd Amelia gyda Vision Street, cwmni cynhyrchu o Lesotho, i greu fersiwn sain a slotiau radio. Gallai plant ffonio’r orsaf radio a gofyn cwestiynau. Ar ôl hyn, cafwyd cyfres o raglenni ‘Actions for Heroes’.
Yn ychwanegol, mynychodd athrawon o Lesotho ‘Gynhadledd Lesiant’, oedd yn dangos iddynt sut i gefnogi dysgwyr i fynd yn ôl i’r ysgol ar ôl y clo mawr. O ganlyniad i hyn, cynhaliwyd sesiynau wythnosol neu ‘Well-being Wednesdays’, lle roedd athrawon yn rhannu eu profiadau a phrofiadau eu dysgwyr.
Dywedodd Cyfarwyddwr Dolen, Veronica German, “Mae’n wych fod elusen fach fel Dolen Cymru Lesotho wedi cael ei chydnabod gan y WHO am y gwaith rydyn ni’n ei wneud. Mae’r cyfnod clo wedi bod yn anodd, ond mae wedi ein gwthio i weithio mewn ffyrdd newydd ac arloesol, ac mae hynny’n ganlyniad cadarnhaol iawn.”
Gellir gwylio cyflwyniad Dolen ar ôl 27 munud yn y fideo hwn o’r digwyddiad sydd ar YouTube.



