Iechyd Meddwl

Gwneud Cyfraniad

Cymryd Rhan

Gwaith Iechyd Meddwl Lesotho - Dolen Cymru

Iechyd Meddwl

 

Mae rhoi’r flaenoriaeth haeddiannol i iechyd meddwl yn broblem ym mhob cwr o’r byd. Mae Dolen Cymru wedi gweithio gyda Gweinidog Iechyd Lesotho i ddarparu hyfforddiant yn rhaglen mhGap (Bwlch Iechyd Meddwl) Sefydliad Iechyd y Byd i gefnogi arbenigwyr iechyd yn Lesotho i wella hyder a sgiliau mewn cydnabod a rheoli anhwylderau iechyd meddwl.

Ymgymerodd gwirfoddolwyr ag ymweliadau asesiadau anghenion i gwrdd, gwrando a goruchwylio ymarfer, gan sgwrsio ag arbenigwyr a swyddogion iechyd ar bob lefel. Cawsant hyfforddiant penodol gan hyfforddwr rhyngwladol o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion ac wedi darparu hyfforddiant wedi’i ddylunio gan Sefydliad Iechyd y Byd i weithwyr a darlithwyr iechyd ar y rheng flaen. Mae hyn yn cynnwys trafodaethau ynghylch hawliau dynol, stigma a chredoau diwylliannol, gan dynnu ar brofiadau’r “myfyrwyr”

Mae Dolen Cymru yn un o’r sefydliadau anllywodraethol prin iawn sy’n rhoi cymorth gofal iechyd meddwl yn Lesotho.

Mae dros 100 o arbenigwyr iechyd wedi’u hyfforddi, a’r cwbl yn cadarnhau gwerth a pherthnasedd eu dysg. Mae ein rhaglen yn ymateb i sylwadau ac argymhellion a wneir.

 

Delwedd Cofrestru Dolen Cymru - Pobl Lesotho

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close