Dŵr, Glanweithdra a Hylendid (WASH)

Gwneud Cyfraniad

Cymryd Rhan

Prosiect WASSH Dolen Cymru

Dŵr, Glanweithdra a Hylendid (WASH)

Mae troi tap i olchi’ch dwylo yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd yn ganiataol yng Nghymru a’r DU. Roedd golchi ein dwylo yn rheolaidd yn ystod pandemig COVID yn rhywbeth yr oedd rhaid i ni gofio ei wneud. Nid gwaith beichus…

Ond beth pe na fyddai dŵr yn ymyl eich cartref neu ysgol?

Hyd yn oed cyn y pandemig nid oedd nifer o blant yn Lesotho yn gallu cael mynediad at yr hawl dynol sylfaenol hwn, sef mynediad at ddŵr diogel a glanweithdra. Hyd yn oed deng mlynedd ar ôl i’r Cenhedloedd Unedig ddatgan hwn yn hawl dynol, mae plant yn colli allan ar addysg a chyfleoedd mewn bywyd, oherwydd na allant olchi eu dwylo yn briodol na chael mynediad at doiledau glân.

Mae Dolen yn gweithio gyda phartneriaid yn Lesotho i addysgu cymunedau ynghylch pwysigrwydd golchi dwylo ar gyfer bywydau iach. Mae arbenigwyr lleol yn helpu ysgolion a chymunedau i osod ac adeiladu eu tapiau eu hunain.

Delwedd Cofrestru Dolen Cymru - Pobl Lesotho

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close