Walk the Global Walk
Astudiaeth Achos
Gwneud Cyfraniad
Cymryd Rhan
Walk the Global Walk- Astudiaeth Achos
Er gwaetha’r glaw ar 7 Mehefin, tyrrodd dros 250 o ddisgyblion i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol i ddangos eu cefnogaeth ar gyfer y Nodau Datblygu Cynaliadwy fel rhan o brosiect Walk the Global Walk a ariennir gan yr UE.
Ymunon nhw â 14 o athrawon brwdfrydig ac ymroddedig o Lesotho a oedd yn ymweld â’u hysgolion partner yng Nghymru drwy’r rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau drwy Ddysgu Byd-eang a’r rhaglen Lleoli Athrawon Dolen Cymru. Dywedodd Setempe Phoka ar ran bobl Basotho “Anrhydedd i ni yw bod yn rhan o’r digwyddiad hwn sy’n dangos ymrwymiad pobl ifanc sy’n arwain y ffordd tuag at gynaliadwyedd. Nid oes unrhyw ffordd arall o fynd i’r afael â materion byd-eang sy’n ein hwynebu ni ar wahân i ymateb byd-eang fel hwn.”
Agorwyd y digwyddiad gyda gorymdaith liwgar o amgylch yr Ardd â glôb enfawr a band Samba ar y blaen. Roedd y disgyblion yn gafael ym mhosteri a baneri wedi’u gwneud â llaw i amlygu Nod Datblygu Cynaliadwy 11, Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy, a’r angen i weithio mewn partneriaeth er mwyn cyflawni hyn.
Cafodd y cyfranogwyr, a oedd yn cynnwys athrawon, penaethiaid, swyddogion addysg, cynghorwyr sir a chynrychiolwyr cyrff anllywodraethol yn ogystal â disgyblion, eu croesawu gan Gareth Morgans, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Gâr. Fe atgoffodd pawb bod digwyddiadau tebyg yn cael eu cynnal mewn 11 o genhedloedd eraill yn yr UE fel rhan o’r prosiect Walk the Global Walk, sy’n golygu bod y rhai a oedd yn bresennol yn rhan o gymuned wirioneddol ryngwladol o filoedd o bobl ifanc yn codi ymwybyddiaeth o’r Nodau Byd-eang ac yn gweithredu i’w helpu eu gwireddu. Nododd hefyd ymrwymiad Sir Gâr i wrando’n weithredol ar bobl ifanc a datblygu cynlluniau a pholisïau gyda hwy.
Yna cafodd y Gôl-geidwaid Byd-eang, llysgenhadon disgyblion o ysgolion Sir Gâr a oedd ynghlwm â’r prosiect, y cyfle i ddangos y gweithredoedd yr oeddynt wedi’u harwain i wneud eu cymunedau’n fwy cynaliadwy. Mae’r rhain yn cynnwys prosiect sy’n pontio’r cenedlaethau er mwyn amlygu treftadaeth ddiwylliannol, creu gerddi cymunedol, brwydro yn erbyn gwastraff plastig, cefnogi Masnach Deg, annog disgyblion i fynd ar eu beiciau gyda thaith feicio noddedig, a chynllun menter gymdeithasol arloesol. Gwnaeth y cynghorydd Cefin Campbell, sy’n gyfrifol am sicrhau bod y sir yn dod yn ddi-garbon erbyn 2030, dynnu sylw at yr heriau enfawr sydd ynghlwm, a’r angen i weithredu fel unigolion ac fel cymunedau er mwyn cyflawni hyn.
Yna cymerodd y disgyblion ran mewn amrywiaeth o weithdai ymarferol: arbrofi gydag egni adnewyddadwy, archwilio diwylliannau Affricanaidd ac Affricanaidd Caribïaidd a’u dylanwad ar gerddoriaeth, chwarae gêm nwyon tŷ gwydr, creu bomiau bath, gwneud lapiad bwyd cynaliadwy, creu pot nwdls iachus, ac yn meddwl sut yr ydym yn dibynnu ar eraill o amgylch y byd am ein dillad a’n bwyd.
I gloi, gwelwyd y Gôl-geidwaid Byd-eang yn gwneud addewidion i barhau â’u gweithredoedd a chafwyd cerddoriaeth ar ffurf
unawdau hyfryd gan Mari Mathias a chanu corawl a oedd yn ddigon i godi blew eich gwar gan athrawon yn ymweld o Basotho.
Hoffai’r trefnwyr ddiolch i Sophie Howe ac Elen Jones o Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol, ein Gôl-geidwaid Byd-eang a’u hathrawon o ysgolion Treioan, Bro Myrddin, Bro Dinefwr, Dyffryn Aman, Glan y Môr, Y Frenhines Elisabeth a Chanolfan y Gors, ymwelwyr o Basotho, pob ysgol arall a gyfranogodd, cynghorwyr a swyddogion y sir, staff GFGC, a holl ddarparwyr gweithdai, gweithgareddau pop-yp a stondinau.





