Mae Victoria yn athro ysgol profiadol yn gweithio mewn ysgol amlddiwylliannol yng Nghaerdydd ac mae’n hynod frwd dros ddatblygiad byd-eang, dinasyddiaeth ac addysg hawliau plant. Astudiodd ym Mhrifysgol Bath Spa cyn ennill Meistr mewn Addysg o Brifysgol Caerdydd.
Ymunodd â Dolen Cymru yn 2018 fel athro gwirfoddol fel rhan o Raglen Lleoli Athrawon Lesotho (LTPP) am chwe mis. Yn y cyfnod hwn, gweithiodd gydag athrawon, athrawon dan hyfforddiant a phlant yn nhref fynyddig Thaba Tseka, gan gydweithio a rhannu ei hymarfer addysgu a rhannu y daith â’i hysgol yn ôl yng Nghymru hefyd.
Ers iddi ddychwelyd, mae wedi bod yn aelod o Bwyllgor Addysg Dolen Cymru. Mae ei gwaith a’i chysylltiadau â Lesotho wedi parhau, drwy gysylltu ysgolion a rhannu gweithgareddau rhwng Cymru a Lesotho (megis Olympiad Rhyngwladol Diwrnod y Dŵr Byd-eang). Daeth yn Aelod o Fwrdd ac Ymddiriedolwr Dolen Cymru ddechrau 2020.