Fy enw i yw Khosi Mofolisa. Rydw i’n athro cynradd cymwysedig o’r Deyrnas yn yr Awyr, Lesotho. Rydw i’n Hyfforddwr Jolly Phonics Swyddogol ac yn Swyddog Llythrennedd rhan-amser i Dolen Cymru. Fy nyletswyddau yw sicrhau bod athrawon Lesotho yn addysgu llythrennedd i blant mewn modd effeithiol o flynyddoedd cynnar eu bywydau. Dechreuais weithio gyda Dolen ar brosiect WASH, ac yn ystod COVID-19 cefais fy nghomisiynu i greu sioeau radio i blant yn ystod y cyfnod clo. Yn ddiweddar, ymwelais â Chymru fel rhan o Raglen Lleoliadau Athrawon British Council Cymru.