Fy enw i yw Khosi Mofolisa, athrawes ysgol gynradd gymwysedig o’r Deyrnas yn y Cymylau, Lesotho. Rwyf yn Rheolwr Rhaglenni Dolen Cymru, ac mae’n ddyletswydd arnaf sicrhau bod athrawon Lesotho yn dysgu llythrennedd i blant yn effeithiol o’r blynyddoedd cynnar yn eu bywydau. Dechreuais weithio gyda Dolen ar brosiect WASH ac yn ystod COVID‑19 cefais fy nghomisiynu i greu rhaglenni radio i blant yn ystod y cyfnod clo. Yn ddiweddar ymwelais â Chymru fel rhan o Raglen Lleoli Athrawon Cyngor Prydeinig Cymru.