Bu Cath yn gweithio i Dolen rhwng 2017 a 2021 ar brosiectau Addysg a WASH, cyn ailymuno â Dolen fel Cydgyfarwyddwr Gweithredol, ochr yn ochr â Sharon, yn 2023.
Mae gan Cath fwy na phymtheg mlynedd o brofiad yn gweithio ac yn gwirfoddoli yn y trydydd sector yng Nghymru, yn Affrica Is-Sahara ac yn Ne’r Môr Tawel. Mae Cath yn danbaid dros rôl Cymru mewn Cydsafiad Byd- eang a thros gynorthwyo cydweithwyr, cymunedau, ysgolion a chysylltiadau Basotho i esgor ar newid cadarnhaol yn Lesotho ac yng Nghymru. Hefyd, mae hi’n Rheolwr Cymorth Datblygu rhan-amser yn Hwb Cymru Affrica ac yn un o Ymddiriedolwyr Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) lle mae hi’n Gydgadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldebau.
Yn ei hamser hamdden, mae Cath yn mwynhau dawnsio llinell, ysgrifennu creadigol a cherdded Ym mis Mehefin 2023, mae Cath yn bwriadu cerdded y tri chopa (sef cerdded 17 milltir, gan esgyn 2334 metr, mewn un diwrnod) gyda’i chyfeillion… o ran hwyl.