Astudiodd Andrea Gemeg ym Mhrifysgol Bryste a dechreuodd ei gyrfa fel Cemegydd oddi mewn i ddiwydiant gweithgynhyrchu lleol yn y Barri, lle bu’n gweithio am 36 mlynedd. Drwy gydol ei gyrfa, mae Andrea wedi mynd i’r afael â sawl rôl, ond yn ddiweddar daeth yn rheolwr cadwyn gyflenwi’r DU, gan dywys y busnes trwy heriau diweddar Covid a Brexit. Yn ystod cyfnodau cynnar ei gyrfa bu Andrea yn hyrwyddo gyrfaoedd yn y byd diwydiant mewn ysgolion lleol trwy gyfrwng rhaglenni a gâi eu rhedeg gan CRAC (Careers Research & Advisory Centre).
Ymunodd Andrea â Dolen ym mis Rhagfyr 2022 fel Swyddog Cyllid a Gweinyddu rhan-amser. Mae hi’n cael blas mawr ar ddysgu rôl newydd ac mae tîm Dolen wedi estyn croeso cynnes iddi, yng Nghymru ac yn Lesotho.
Yn ei hamser hamdden, mae Andrea yn mwynhau cerdded a chwarae tennis, ac mae hi’n danbaid dros chwaraeon dŵr yn cynnwys bordhwylio a phadlfyrddio sefyll pan fydd y tywydd yn caniatáu.