Mentora Athrawon

 

Gwneud Cyfraniad

Cymryd Rhan

Cymerodd Mme Lillian o Ysgol Gynradd Katlehong yn Thaba Tseka ran yn WTPP 2018 a chafodd ei lleoli yn Ysgol Gynradd Gymunedol Swiss Valley, Llanelli

Cymerodd Mme Lillian o Ysgol Gynradd Katlehong yn Thaba Tseka ran yn WTPP 2018 a chafodd ei lleoli yn Ysgol Gynradd Gymunedol Swiss Valley, Llanelli

Teacher Mentoring

Oherwydd COVID-10, mae ein rhaglenni wyneb yn wyneb i athrawon wedi’u hoedi. Mae ein Rhaglenni Lleoli Athrawon Cymru a Lesotho bellach yn cael eu harwain yn rhithiol gan ddefnyddio Whats App, Zoom, Teams a Google Classroom.

Rydym yn gweithio o bell gydag arbenigwyr iechyd ar draws Lesotho i arwain ac atgyfnerthu eu datblygiad proffesiynol yn ystod COVID-19. Mae gennym 4 tîm o athrawon yn datblygu adnoddau digidol ar gyfer hyfforddiant athrawon ar-lein mewn Llythrennedd (Saesneg); Sesotho (Ffoneg); Mathemateg a Dŵr, Glanweithdra a Hylendid (WASH) sy’n gymorth i fagu hyder, gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ar gyfer athrawon a dysgwyr yn 2021. Rydym yn mentora 2 athro sy’n ymgymryd â’r rhaglen hyfforddiant Jolly Phonics ar-lein; gan gydweithio â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant i arwain Rhaglen Mentora a Hyfforddiant i ddarlithwyr Coleg Addysg Lesotho.

Rydym hefyd yn cefnogi 9 clwstwr o ysgolion wedi’u hariannu gan Cysylltu Dosbarthiadau drwy’r Rhaglen Dysgu Byd-eang. Mae gwirfoddolwyr ymroddedig yng Nghymru yn cynorthwyo gyda’r rhaglen hon ochr yn ochr â’n Swyddog Addysg, gan arddangos a rhannu eu harbenigedd addysg a’u hymrwymiad i’w cydweithwyr yn Basotho.

Delwedd Cofrestru Dolen Cymru - Pobl Lesotho

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close