Adroddiad gan Sian Davies:

Yn dilyn newyn Ethiopia yn 1984, roedd pwyslais ar gydweithio gyda gwledydd Affrica i ymateb i anghenion y cyfandir, ond hynny trwy gryfhau cysylltiadau rhyngwladol yn hytrach na fod yn asiantaeth gymorth. Dewiswyd Lesotho gan y Cymry oherwydd bod gan y wlad nodweddion tebyg i Gymru o ran maint, tirwedd, dwyieithrwydd a threftadaeth ddiwylliannol. Mae’r bartneriaeth rhwng y ddwy wlad ac ysgolion y ddwy wlad wedi parhau ers hynny. Braf felly oedd teithio i Thaba Tseka eleni fel rhan o gynllun Dolen Cymru i gynnal y bartneriaeth hon. Cafodd y daith ei threfnu ar y cyd gydag elusen Dolen Cymru, a’i hariannu gan ‘Taith’, Llywodraeth Cymru.

Tra yn Thaba Tseka, fe wnaethom gael ystod o brofiadau gan gynnwys arsylwi ac addysgu gwersi, cynnal trafodaethau proffesiynol er mwyn cymharu cwricwlwm y ddwy wlad ynghyd â thrafod yr heriau sydd i weld yn Lesotho ar hyn o bryd. Yn ogystal, fe wnaethom gwrdd ag Uwch Gomisiynydd Prydeinig Lesotho a theithio i rai atyniadau lleol. 

Mae Thaba Tseka yn ardal wledig, fynyddig ac un elfen o’r daith sydd yn aros yn y cof yw’r golygfeydd anhygoel a welwyd. Fe wnaethom ymweld gyda ‘dam’ Mohale. Mae hanes Mohale yn debyg i hanes Tryweryn. Boddwyd y pentref yn 2003 er mwyn darparu dŵr a thrydan i Dde Affrica. Mae gan y wlad amryw o draddodiadau a gwelwyd rhai o rain mewn prynhawn diwylliannol yn ystod y daith. Gwelwyd gwisgoedd traddodiadol, lliwgar ac amrywiaeth o berfformiadau- rhai yn debyg i’r hyn a fyddwn ni yn gweld mewn Eisteddfod. Uchafbwynt y daith oedd y bobl- pobl hapus, balch, uchelgeisiol, gwladgarol, serchog, cymwynasgar a chroesawgar. Yn sicr, fe wnaeth Mme Moipone, ein prif gyswllt yn ein hysgol bartner, ein croesawi yn ddiffuant i’r pentref ac i’r ysgol 

Fe wnaethom ymweld gyda dwy ysgol uwchradd, un ysgol gynradd ac un coleg i fyfyrwyr ôl-18. Roedd 850 o ddisgyblion yn yr ysgolion uwchradd ac roedd mwyafrif o’r disgyblion yn cerdded i’r ysgol- rhai yn cerdded hyd at ddwy awr un ffordd. Prin oedd yr adnoddau yn yr ystafelloedd. Ar y cyfan, roedd gan bob disgybl sedd, ond roedd rhai dosbarthiadau heb ddesgiau. Gwelwyd dosbarthiadau enfawr, rhai gyda hyd at 120 disgybl mewn gwers. Doedd dim posteri yn cael eu harddangos yn yr ystafelloedd ac fe fyddai’r athrawon yn ysgrifennu ar fwrdd sialc. Roedd y toiledau’n llwm iawn ac yn anaddas ar gyfer nifer o ddisgyblion yr ysgol. Serch y diffyg adnoddau a chyfleusterau, roedd y gwersi yn arbennig. Roedd y disgyblion yn werthfawrogol iawn o’u haddysg ac yn ddiolchgar am fod yn yr ysgol. Ar ddiwedd blwyddyn 11 mae disgyblion Lesotho yn sefyll arholiadau o’r enw LGCSE a gwelwyd bod safon yr arholiadau hyn yn gyfatebol gyda safon ein harholiadau TGAU ni. Yn sicr, roedd disgyblion yr ysgolion yn blant galluog, deallus.

Ysgol Gyfun Ntaote

Yn dilyn ein hymweliad, rydym yn awyddus ein bod yn cynnal partneriaeth hir dymor gyda ein hysgol bartner, sef ysgol Ntate. Ar sail ein profiadau y tro hwn, ynghyd â chysgodi staff Ysgol Bryngwyn a wnaeth deithio gyda disgyblion eleni, braint o’r mwyaf byddai dychwelyd y flwyddyn nesaf ond hynny gyda disgyblion ein hysgol ni. Pleser o’r mwyaf byddai arwain y daith hon ac i gynnig y profiad unigryw, bythgofiadwy hwn i ddisgyblion ein hysgol ni

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close