Yma gallwch ddysgu am y gwaith y mae Dolen Cymru’n ei wneud ym maes iechyd yn Lesotho.
Mae anghenion iechyd yn Lesotho’n enfawr – gyda 23% o’r boblogaeth yn dioddef o HIV/AIDS, mae cyfraddau TB yn uchel iawn ac mae gyda rhywogaethau aml-wrthiannol cynyddol ac mae’r risg i iechyd y cyhoedd o glefyd siwgr yn tyfu. Gyda’r fath ystadegau mae gwaith iechyd Dolen Cymru’n gallu gwneud gwahaniaeth. Mae ein gwaith wedi cwmpasu hyfforddiant iechyd meddwl, cyfnodau dewisol i fyfyrwyr meddygaeth, lleoliadau iechyd dwyochrog, a datblygu rhaglen HIV/AIDS.
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyswllt ag Ysbyty Quthing a Thîm Iechyd Ardal Quithing wedi ei selio gan Femorandwm Dealltwriaeth gyda’r Gweinidog Iechyd a Lles Cymdeithasol yn Lesotho. Mae syniadau’n llifo i’r ddau gyfeiriad!
Trwy gyswllt newydd rhwng y Coleg Hyfforddi Iechyd Cenedlaethol ag Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor bydd myfyrwyr a darlithwyr yn dod ynghyd i rannu arbenigedd o’r ddwy wlad.