Beth rydym ni’n ei wneud?
Rydym yn cynorthwyo i greu newid parhaol, cadarnhaol yn Nheyrnas Lesotho yn neheubarth Affrica– ac mewn cymunedau yma, gartref yng Nghymru.
Sut rydym ni’n gwneud hyn?
Cyswllt wrth gyswllt. Rydym yn cyflwyno gweithwyr proffesiynol o ysgolion, ysbytai a sefydliadau eraill sy’n rhannu syniadau a dulliau gweithredu. Felly mae un athro/athrawes yn dysgu techneg newydd gan y llall – ac yna’n addysgu’r dechneg honno i’w gydweithwyr/chydweithwyr, sydd wedyn yn mynd ymlaen i ddangos i eraill sut i’w wneud hefyd. Oherwydd eu bod yn cydweithio, mae ysgolion yn gwella, mae cymunedau’n gwella ac mae ardaloedd cyfan yn gwella. Mae plant yn tyfu i fod yn rymus, gyda’u syniadau eu hunain i’w rhannu.
Lle rydym ni wedi’n lleoli?
Mae ein swyddfa yn y DU yng Nghaerdydd ond gweithiwn âchymunedau a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru.
“Ym maes iechyd, addysg, amgylchedd a chrefydd mae’r bartneriaeth â Chymru wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a gobaith i’n pobl."
Kenneth Tsekoa, Gweinidog Materion Tramor Lesotho
Darllenwch fwy