Ers 1985
Rhai o’r pethau sydd wedi digwydd ers 1985:
- Mae cyswllt wedi ei ffurfio rhwng dros 130 o ysgolion trwy Gymru a Lesotho trwy gyfrwng rhaglen cysylltu ysgolion Dolen Cymru, gan gyrraedd dros 40,000 o blant yng Nghymru.
- Trwy ymweld â gwledydd ei gilydd gall athrawon a disgyblion o bob ysgol yng Nghymru a Lesotho dreulio o leiaf wythnos yn eu hysgol gyswllt, gan gyfnewid arferion dysgu.
- Ers 2005 mae dros 50 o athrawon wedi bod yn Lesotho trwy ein Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho, ac mae eu gwaith yn hanfodol i addysg y plant trwy’r wlad.
- Mae nifer o sefydliadau wedi cymryd rhan i godi arian ar gyfer gwahanol brosiectau yn Lesotho. Lansiodd Merched y Wawr ymgyrch gwau noddedig gan godi dros £13,000 i Lesotho. Hefyd cyhoeddwyd llyfr ganddynt yn llawn straeon o Gymru a Lesotho yn dwyn y teitl "Y Ddolen Air - Straeon o Gymru a Lesotho."
- Mae arweinwyr eglwysi o Gymru a Lesotho wedi cymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid.
- Yn 1999 dechreuwyd gefeillio trefi a chafodd Tŷ Ddewi ei gefeillio â Matsieng yn Lesotho.
- Mae Dolen Cymru wedi trefnu nifer o leoliadau dewisol ar gyfer myfyrwyr meddygol o Gymru mewn ysbytai yn Lesotho, a darparwyd hyfforddiant i staff iechyd Lesotho yng Nghymru. Yn 2003 cyrhaeddodd 12 o wirfoddolwyr o Gymru yn Lesotho.
- Yn 2007 penodwyd y Tywysog Harry yn Noddwr Dolen Cymru
Ydych chi’n hoffi’r dudalen hon?