Trwy weithio gyda sector eang o’r gymdeithas yng Nghymru a Lesotho rydym yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chynaliadwy i fywydau pobl yn y ddwy wlad.
Cryfder pennaf Dolen Cymru yw ein bod yn dibynnu ar ddatblygu cysylltiadau rhwng pobl ac annog sefydliadau ac unigolion i weithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth, boed fel gweithwyr iechyd, athrawon neu seneddwyr. Wrth gydweithio â phobl Cymru rydym hefyd yn datblygu’r sgiliau a’r agweddau y mae eu hangen ar Gymru i ymateb i heriau mewn cymdeithas sy’n mynd yn fwyfwy byd-eang.
Rhaglenni penodol
Rydym yn darparu Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho, gan roi cyfle i athrawon yng Nghymru dreulio 6 mis yn byw ac addysgu yn Lesotho.
Mae Dolen Cymru’n rhan o gonsortiwm sy’n darparu’r Rhaglen Cyfleoedd Dysgu rhyngwladol, sy’n rhoi cyfle i weithwyr yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghymru ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth trwy weithio am 8 wythnos yn Lesotho neu Uganda.