DATHLWCH DDIWRNOD MOSHOESHOE
ar 11eg Mawrth
Ymunwch gyda'n cyfeillion Basotho i ddathlu sefydlydd Lesotho bob blwyddyn gan ddefnyddio ein adnoddau dysgu sydd am ddim. Dilynwch y linc yma i gael mynediad at fideo dwyieithog, PowerPoint a ffeiliau Word ar gyfer ysgolion cynradd ac
** Cynnig arbennig **
Mae Dolen Cymru yn rhoi i ffwrdd pecyn addysg am ddim i bob ysgol yng Nghymru! Mae ein pecyn adnoddau gwych ‘WASH’ yn llawn syniadau i ymgorffori yn eich gwersi, gweithgareddau hwylus a deunyddiau i gefnogi addysgu a dysgu ar bob lefel. Mae'r pecyn yn smorgasbord gydag amrywiaeth o wahanol ddulliau ar gyfer gwneud gwersi’n ddifyr. Gallwch ddewis cyn lleied neu gymaint ag ych chi eisiau.
Cynhelir Diwrnod Dŵr y Byd Rhyngwladol ar 22 Mawrth yn flynyddol. Mae'n rhoi cyfle i ysgolion, sefydliadau a llywodraethau i godi ymwybyddiaeth o faterion dŵr ac eiriolu ar gyfer rheolaeth cynaliadwy o’r adnodd naturiol gwych hwn.
Rydym wedi nodi dŵr, glanweithdra a hylendid ( Water And Sanitation Hygiene [WASH] ) fel blaenoriaeth ac yn cefnogi prosiectau WASH mewn ysgolion yn ardal Tseka Thaba, Lesotho, lle rydym yn adeiladu toiledau a hyrwyddo rhaglenni addysgiadol. Ar Ddiwrnod Dŵr y Byd eleni rydym yn gweithio gyda disgyblion ysgol a’u cymunedau yn Lesotho gyda gweithgareddau hwylus i godi eu hymwybyddiaeth fod golchi dwylo yn bwysig i gadw plant yn yr ysgol ac hyd yn oed i achub bywydau.
Os na allwch gysylltu â Dropbox gallwch lawrlwytho ffeil zip yma.
WASH file
(Os oes angen y pecyn yn y Gymraeg cysylltwch â ni ar [email protected] )
Mae gennym becynnau addysgu eraill ar gyfer ysgolion sy'n gysylltiedig â Dolen Cymru.
Mae llawer o fanteision i’ch ysgol wrth ymaelodi â ni. Dim ond £20 y flwyddyn yw’r pris i gael mynediad at:
- amrywiaeth o adnoddau addysgu
- cymorth i ddod o hyd i ysgol yn Lesotho i gysylltu â hi
- syniadau y gallwch weithio arnynt ar y cyd gyda’ch ysgol gyswllt yn Lesotho
- help i drefnu ymweliadau i’ch ysgol gyswllt a
- help gyda teithio i Lesotho ac yn y wlad
- help gyda cheisiadau Visa ar gyfer eich cydweithwyr Basotho
Mae gennym becyn adnoddau dysgu i ysgolion sy’n gysylltiedig â Dolen Cymru Lesotho.
Mae yna sawl mantais i’ch ysgol os ymunwch â ni. Am ddim ond £20 y flwyddyn cewch:
- amrywiaeth o adnoddau dysgu
- cymorth gyda chanfod ysgol yn Lesotho i chi gysylltu â hi
- syniadau y gallwch weithio gyda’ch ysgol gyswllt arnynt
- cymorth gydag archebu ymweliadau cytbwys i’ch ysgol gyswllt
- cymorth gyda theithio i Lesotho a chostau o fewn y wlad
- cymorth gyda chymwysiadau Visa i’ch cydweithwyr Basotho
Lawrlwythwch ffurflen i gysylltu eich usgol nawr
Lawrlwythwch ffurflen gais i gysylltu eich ysgol gydag un y Lesotho
Isod mae sampl o’r pecyn hwn a allwch ei ddefnyddio mewn ysgolion. Os ydych yn aelod, cliciwch yma i gael mynediad i becyn adnoddau llawn.