Stori Dan

Yr wythnos diwethaf cefais fy hun yn ôl ym Maseru, y dref a fu’n gartref i mi rhwng 2011 a 2013, er mwyn lansio'r prosiect rwyf wedi bod yn ymwthio’n araf tuag ato dros y 3 blynedd ddiwethaf. Fe ddechreuodd y cyfan mewn tafarn yn Ninas Llundain pan oeddwn yn paratoi i gychwyn am Lesotho, cynllun cyffrous ac uchelgeisiol, os braidd yn amwys, i ddod â rygbi i blant Teyrnas y Mynyddoedd yn ogystal â danfon rhai negeseuon syml am HIV.

Bûm yn gweithio gyda chwaraewyr rygbi arloesol Lesotho am ddwy flynedd i droi gêm a oedd yn cael ei chwarae gan chwe gŵr ar gwrt tennis yn gêm sy'n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas, a chefais yr anrhydedd o fod yn Llywydd cyntaf Ffederasiwn Rygbi Lesotho (FLR). Ers i mi ddychwelyd ym mis Ionawr, mae Iain Richards, Phil Fouche a minnau wedi bod yn dyfeisio cynllun i sicrhau bod ein rhaglen i blant yn dwyn ffrwyth. Ac ar ôl ychydig fisoedd o drafodaethau gyda Dolen Cymru, rhai penwythnosau’n ceisio meddwl am ymarferion rygbi sy’n pwysleisio pwysigrwydd llysiau yn y diet (sy’n dal i fod yn agored i awgrymiadau), twrnamaint rygbi yng Nghymru ac un cinio codi arian llwyddiannus iawn, dyma ni.

Treuliwyd yr wythnos yn bennaf yng Nghomisiwn Chwaraeon a Hamdden Lesotho gyda Litsitso Motseremeli a Roy Zhou. Roedd yr ystafell, yr arferai’r FLR ei rhannu â’r Gymdeithas Llawbel cyn ei chymryd ganddi i bob pwrpas, yn llawn dop o gyfarpar rygbi. Safai bagiau offer ar wyliadwriaeth wrth y drws. Byddai Litsitso a minnau’n eistedd wrth y ddesg, a sgriniau ein gliniaduron yn gwthio yn erbyn ei gilydd am le. Clwydai Roy’n ansicr ar y "gadair falansio", wedi’i galonogi wrth i ni ei sicrhau ei fod yn dda i gyhyrau’i graidd.

 

Naïf oedd meddwl y byddem yn gyrru drwy'r maes llafur 10 sesiwn y bore cyntaf. Yn wir, cymerodd waith caled dros dri diwrnod wrth i ni rygnu drwy bob sesiwn, gweithio drwy'r strwythur, pennu’r negeseuon allweddol, dadlau dros fuddion iechyd cig gafr a braslunio gemau ac ymarferion ar dudalennau dyddiadur Litsitso. Ond, erbyn y diwedd, roedd gennym rywbeth yr oedd pob un ohonom yn credu ynddo. Nid oeddem wedi dylunio rhaglen hyfforddi rygbi – mae Litsitso a Roy wedi bod yn addysgu plant ysgol sut i chwarae rygbi ers oddeutu dwy flynedd erbyn hyn - rydym wedi datblygu hunaniaeth o amgylch y gêm, un sy'n addysgu’r plant bod angen iddynt fod yn ymwybodol o sut i fyw bywyd iach a chyfrifol os ydynt am chwarae rygbi.

Mae'n anodd pennu’r union adeg mae rhywbeth fel hyn yn troi o fod yn gysyniad i realiti. A ddigwyddodd wrth i ni eistedd i lawr ac edrych ar y traed moch o faes llafur roeddem wedi’i lunio - gorffenedig a da, ond fersiwn ddigidol sy’n cyfateb i lawysgrif wreiddiol awdur, cwilt clytiau o nodiadau sy’n gwneud synnwyr i neb ond ni, gyda fformat cyfosodedig. Tybiaf mai’r sesiwn gyntaf y cynhaliodd Litsitso a Roy mewn ysgol y diwrnod ar ôl i mi adael a wnaeth Academi Rygbi Lesotho yn real. Ond i mi, y diwrnod y gellais ryddhau'r lwfans byw (byddwn yn gor-ddweud pe dywedwn ei fod yn gyflog) i Litsitso a Roy sy’n nodi’r newid o gysyniad i realiti. Bu’r ddau’n gweithio bob dydd am ddwy flynedd i hybu’r gêm, gan ddod trwyddi â £300 o amser ffôn symudol a roddwyd gan Econet - bydd y rhan fwyaf ohono’n cael ei werthu ymlaen i ariannu eu costau tanwydd. Ni welwyd erioed dwy wên fwy.

Teimlwn yn wylaidd ar fy niwrnod cyntaf pan ofynnais i Litsitso, sy’n dad i ddau, sut y bu’n ymdopi’n ariannol. Gohiriodd y cwestiwn yn anhunanol: "Dwi’n meddwl yr ateba i ar ôl i ti ofyn i Roy". Mae gan Roy yntau ddau o blant, ac rwy’n gwybod bod pethau wedi bod yn anodd i’r gwŷr hyn.

Ar ôl pennu’r maes llafur bu i ni gyfarch gwell i'r Llywodraeth, a chawsom yr un hen frwdfrydedd anymrwymol rwyf wedi dod i’w ddisgwyl a’i dderbyn, ac un neu ddau noddwr lleol posibl a hen ffrindiau.

Cynhaliwyd twrnamaint y National 7s ar y dydd Sadwrn, ac roeddwn wedi reffarïo’r cyfan er gwaethaf y ffaith fy mod wedi cael mymryn o sesiwn â hen ffrindiau'r noson gynt. A minnau wedi blino'n lân ac wedi llosgi yn yr haul, prin y gallwn godi Cwpan Dan Aylward i’w rhoi i'r tîm buddugol ar y diwedd, ac roeddwn yn teimlo fel petawn yn llawn haeddu’r lle sydd gan fy enw arni. Nid oedd heb ddadlau, â’r Brifysgol Genedlaethol wedi ennill rownd y gynghrair, ond wedi’i threchu gan fy hen glwb, y Maseru Kings oedd wedi’i osod yn ail, mewn rownd derfynol, gyda dadl yn gysylltiedig â’r cais cyntaf canolog, sef pa un a oedd yn cyfrif fel taro’r bêl ymlaen wrth hitio rhywun yn ei ben.

Roedd hi’n anodd gadael. Bu’n wythnos hir, a blinedig. Roedd popeth yn ei le. Daeth Litsitso â dagrau i’m llygaid wrth i mi ffarwelio’n dawel ag ef a Roy ym maes parcio'r gampfa lle ganwyd Rygbi Lesotho. Sylweddolais mai’r ddau ŵr yma yn mynd i mewn i ysgol i’w gyflwyno i ni sydd wrth wraidd  popeth rydym wedi bod yn gweithio tuag ato, a’r cannoedd o bobl sydd wedi chwarae rhan yn y stori hon rywfodd neu'i gilydd. Dyna fel y mae hi, a lle bydd yn llwyddo neu'n methu. A sylweddolais faint rwyf angen Litsitso a Roy.

Ar 6 Hydref aeth Roy a Litsitso i'r ysgol gyntaf i ddechrau rhaglen beilot Academi Rygbi Lesotho. Bydd yn rhedeg tan fis Rhagfyr, a byddwn yn parhau i roi gwybod i bawb sut mae'n mynd.

 

Edrychwch ar ffotograffau o Academi Rygbi Lesotho ar waith

 

Rhowch gyfraniad i Academi Rygbi Lesotho

Cyfrannu Cadw mewn cysylltiadd