Mae Brenhiniaeth Lesotho yn ardal de-ddwyrain Affrica, wedi'i hamgylchynu'n llwyr gan Weriniaeth De Affrica, ac mae'n gorchuddio ardal o dir 30,355 cilometr sgwâr.
Mae gan Lesotho boblogaeth gyfan o 2.3 miliwn o bobl, y mae tua 77% ohonynt yn byw yn yr ardaloedd gwledig. Y Brifddinas yw Maseru. Yr enw ar drigolion Lesotho yw'r Basotho a Sesotho yw'r iaith y maent yn ei siarad, er bod Saesneg yn cael ei siarad yn helaeth hefyd.
Mae Lesotho yn wlad brydferth llawn diwylliant a hanes cyfoethog ond mae'n wlad sy'n dioddef yn enbyd. I gael gwybod mwy am y wlad unigryw hon, cliciwch ar y dolenni.
Mae Lesotho, sy'n cael ei galw'n 'Deyrnas yn y Nen', yn unigryw yn ddaearyddol. Darllenwch ymlaen i gael gwybod pam.
Cyfarfod â Rethabile, sy'n 12 oed
Mae Rethabile yn byw yn Lesotho ac mae'n 12 oed. Yma, mae'n dweud wrthym am ei fywyd yn Lesotho. Ystyriwch sut mae ei fywyd ef yn wahanol i fywydau pobl ifanc yng Nghymru.