Glyn O. Phillips

Trist yw nodi ymadawiad un o gyfeillion cynnar a chyson Dolen Cymru, sef yr Athro Glyn O. Phillips.  Roedd Glyn yn un o’r grŵp bychan a fu’n gyfrifol am droi yr uchelgais o alluogi Cymru i weld y byd trwy ei llygaid ei hun i fodolaeth ac i wneud hynny yn benodol trwy greu cysylltiad gyda chenedl arall, ymhell o Gymru, ar batrwm y cytundebau rhwng-ddinesig a welwyd ar ôl yr ail ryfel byd. 

Roedd meddylfryd rhyngwladol yn ail natur i Glyn.  O dan ei lywyddiaeth fel Prifathro, roedd Athrofa Gogledd-Ddwyrain Cymru wedi datblygu cysylltiadau a phartneriaethau gyda nifer o sefydliadau tramor, o Sudan ac Oman i Balesteina a’r Unol Daleithiau ac roedd ei weithgarwch gwyddonol  -  sef ei faes academig ei hun  -  yn ehangach fyth.

Oherwydd ei gymorth, nid annisgwyl oedd mai yng Nghanolfan Ryngwladol yr Athrofa yn Wrecsam y cynhaliwyd y cyfarfod lle penderfynnwyd cysylltu ȃ Lesotho yn benodol, gyda’r awgrym i sefydlu cyfundrefn partneriaeth a chyfeillgarwch gyda’r wlad, awgrym a groesawyd yn gynnes gan y wlad honno.  A dyna Ddolen Cymru yn dod i fodolaeth.

Ac nid yn y cyfnod genedigol yn unig y gwelwyd cefnogaeth Glyn.  Roedd o hyd yn fodlon i aelodau ei staff gyfranu i’r gwaith datblygu a pharatoi ac yno, yng Nhanolfan Rhyngwladol yr Athrofa, y gwelwyd sefydlu Canolfan weithredol, sef pencadlys cyntaf Dolen Cymru, gyda swyddog wedi ei benodi i arwain y gwaith.

Ar ol ymddeol, cytunodd Glyn i barhau fel Ymgynghorydd a gyda’i brofiad o drafod cytundebau gyda chyrff ariannu a’i reddf ynglyn ȃ beth fyddai’n gweithio a beth ddim, roedd ei gyngor o hyd yn werthfawr.  Gyda’i farwolaeth, mae Dolen Cymru wedi colli un o’i harloeswyr cynharaf ac un o’i noddwyr pwysicaf.

 

Geraint O. Thomas

Add your reaction Share

Ifanwy Williams

Teyrnged i Ifanwy Williams- Carl Clowes

Trist yw nodi marwolaeth Ifanwy Williams, un o ymddiriedolwyr gwreiddiol Dolen Cymru, yn 98 oed.

Er bod ei gwreiddiau fel un o Gymry Lerpwl, yng Nghymru roedd y rhanfwyaf o'i bywyd ac yma oedd ei chalon yn ddwfn yn ardal Porthmadog.  Yn byw ar ben ei hun hyd at ddiwedd ei hoes, i’r rhai ohonom oedd yn ei hadnabod roedd hi’n bersonoliaeth gwbl unigryw.  Yn gymdeithasgar tu hwnt, roedd yn anodd i’w chael adref ac, hyd yn oed yn ei dyddiau olaf, yn mynychu cinio Gŵyl Dewi Plaid Cymru a chwrdd yn y capel lleol.  Dw i’n ei chofio yn gyntaf fel gweithiwr cymdeithasol a daeth yn amlwg yn fy nyddiau cynnar fel meddyg yn Llŷn ond, yn anad dim, roedd ei chyfraniad i gychwyniad Dolen Cymru yn ei gosod yn flaenllaw iawn yn f’adnabyddiaeth ohoni.

Me Lineo Phachaka, Trefnydd cyntaf y ddolen yn Lesotho, ac Ifanwy Willams yng Nghastell Deudraeth, Mehefin 2018

 

Fel aelod amlwg o Merched y Wawr, a Chadeirydd ar ei Phwyllgor Anabledd, wnaeth Ifanwy braenaru’r tir ar gyfer y perthynas hynod o lwyddiannus rhwng y Lesotho Homemakers Association a Merched y Wawr.  Roedd Ifanwy a Llywydd yr Homemakers, ‘Malikeleli [Mali] Mokokoane yn flaenllaw yn y ddolen merched, gyda rhaglenni hyfforddiant yn rhan o’u gweithgarwch ar fwy nac yn achlysur.

Roedd Ifanwy yn unigolyn y bobl - ar y naill law yn annerch weithdy yn Lesotho ar ‘Lle merched mewn datblygiad yn y byd democrataidd’ , a’r diwrnod wedyn ar ei phengliniau ar y llawr yn chwarae drymiau gyda Dawnswyr Brenhines Lesotho.

Bydd eraill yn son am Ifanwy fel heddwch-wraig brwd, ei gwaith gyda Chymdeithas y Cymod ac ymgyrchydd yn erbyn arfau ac ynni niwclear.  Ar yr un pryd, yn nodweddiadol ohoni, oedd y cwestiynnu, ei diddordeb bob amser yn y teulu ac unrhyw beth oedd yn hyrwyddo buddiannau Cymru! Unigolyn cyflawn iawn.

Mi oedd hi’n ddynes â steil - fel y dywedodd ei gwr rhyw dro, “os na fedrwch gynnig gwledd, cynigiwch steil”.  Disgrifiad berffaith o’r wraig arbennig hon.

Yn ystod wythnos olaf ei bywyd, wnaeth hi ddanfon tamad o’r Western Mail at gyfaill yn tanlinellu’r pennawd ‘How Nature helped conquer Capitalism.  Amser a ddengys ond yr eironi oedd mai hi oedd y gyntaf yng Ngwynedd i farw wrth y coronafeirws.mRoedd yn fraint o wedi ei hadnabod ac i’w chael yn gyfaill.

Share

Cyfrannu Cadw mewn cysylltiadd