"In health, education, environment and religion the partnership with Wales has been a real source of inspiration and hope to our people."
Kenneth Tsekoa, Lesotho Minister of Foreign Affairs.

Over the past 25 years Dolen Cymru has been dedicated to creating life changing links between Wales and Lesotho in fields of education, health, governance and civil society.

Identified by the UN as a least developed country and with more than a third of its population suffering from HIV/AIDS, with an average life expectancy of less than 40 years, Lesotho is in need of support, training and educational development.

Explore Lesotho by clicking on the Map below

 

 

 

Wales v Scotland  12 February 2012

Chance to win two tickets!

Welsh and Scotland players clash

The WRU has selected Dolen Cymru as their charity of the day for the Wales v Scotland match.  This is a brilliant opportunity to promote the life changing links that the charity has created between Wales and Lesotho.

We have TWO tickets available for volunteers which will be drawn just before the start of the match,

Can you help? 

Contact us on 02920497390 or e-mail: swyddfa@dolencymru.org

Arwerthiant Elusennol er budd Apêl 25 Dolen Cymru

(2009-05-26)

Mae’n bleser gan Dolen Cymru, ar y cyd â’r CPA, gynnal derbyniad siampên ac arwerthiant elusennol er budd Apêl 25 Dolen Cymru, ar 12 Tachwedd. Ei Fawrhydi, Brenin Letsie III fydd y gwestai anrhydeddus yn y digwyddiad arbennig, sy’n codi arian tuag at Apêl 25 Dolen Cymru.

Nod Apêl 25 yw codi £250,000 ar gyfer adeiladu canolfan hyfforddi gynaliadwy yn Lesotho a fydd yn cynnig cefnogaeth fawr ei hangen i ddatblygu sgiliau’r bobl fwyaf agored i niwed yn Lesotho. Mae bron traean poblogaeth Lesotho yn dioddef o HIV/AIDS, ac mae’r disgwyliad oes yn Lesotho yn llai na 40 mlynedd. O ystyried ystadegau mor enbyd, mae gwaith addysgol a hyfforddiant yn hanfodol ar gyfer adeiladu dyfodol gwell i Lesotho.

Mae’n anrhydedd i ni gael nifer o westeion arbennig yn mynychu’r digwyddiad gan gynnwys pobl bwysig ym mywyd Lesotho, y Prif Weinidog y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, aelodau o Gynulliad Cymru ac ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr Dolen Cymru.

Rydym wedi sicrhau nifer o roddion cyffrous ar gyfer yr arwerthiant gan gynnwys treulio diwrnod gyda’r RAF, gwers goginio gydag Aled Williams, sef enillydd ysgoloriaeth 2006 Gordon Ramsay, penwythnos yn y gwesty newydd, The Townhouse ym Miwmares a llawer o roddion eraill.

Gobaith cyfarwyddwr interim Dolen Cymru, Eleanor Gardner, yw y bydd Apêl 25 yn cynnig cyfle i bobl Lesotho weithio tuag at greu dyfodol cynaliadwy.

Meddai Eleanor ‘Mae’r ganolfan hyfforddi’n hanfodol er mwyn i Lesotho ddatblygu a chryfhau ymhellach ei chysylltiadau hanfodol â Chymru. Bydd yn creu amgylchedd delfrydol i Dolen Cymru weithio ochr yn ochr â Lesotho Wales Link, ein chwaer elusen yn Lesotho. Bydd hyn yn ein galluogi ni i gychwyn strwythur cefnogi angenrheidiol ar gyfer cysylltiadau hanfodol rhwng Cymru a Lesotho a chynyddu ein gwaith da rhwng y ddwy genedl. Mae Dolen Cymru yn gweithio tuag at gynnig rhagolwg i bobl agored i niwed Lesotho o ddyfodol gwell a mwy cynaliadwy.’

Nodiadau i Olygyddion

Dolen Cymru

Mae Dolen Cymru - Wales Lesotho Link - yn elusen o Gymru a sefydlwyd yn y Swyddfa Gymreig ym 1985 a hon fu’r enghraifft gyntaf o efeillio gwlad a gwlad yn y byd. Mae Dolen Cymru yn hyrwyddo gweithgareddau sy’n cysylltu mudiadau iechyd, ysgolion, pentrefi, ardaloedd, ac eglwysi yng Nghymru ac yn Lesotho.

Apêl 25

Nod Apêl 25 yw codi £250,000 erbyn 2010, sef pen-blwydd Dolen Cymru yn 25 oed, i adeiladu, cyfarparu a chefnogi canolfan hyfforddi a diwylliannol fodern yn Lesotho. Helpwch Dolen Cymru i gyrraedd ein nod o sicrhau’r cyfleuster hyfforddi hwn, a fydd yn cynnig cefnogaeth fawr ei hangen tuag at ddatblygu sgiliau i bobl Lesotho, gan adeiladu ar eu gallu a’u helpu nhw i helpu eu hunain.

Bydd rhaglenni hyfforddi’n cynnwys sgiliau cyfrifiadurol, cyrsiau rheoli, sgiliau byw’n annibynnol a sgiliau garddwriaethol. Bydd ein cyfleusterau o fewn cyrraedd y bobl fwyaf agored i niwed yn Lesotho. Yn benodol, bydd sesiynau hyfforddi’n cael eu teilwra i ateb anghenion pobl anabl, gan ganiatáu iddynt ennill sgiliau gwerthfawr a’u galluogi nhw i sicrhau cyfleoedd gwaith.

 

 

Our Royal Patron Prince Harry  

Dolen Cymru is one of only six charities to who are lucky enough to have Prince Harry as their Patron.

 


 

All Site Content ©2012 Dolen Cymru
Site built by Cardiff Web Design, Cardiff Search Engine Optimisation and good cause fans, Clear Intent