Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae Dolen Cymru wedi ymroi i greu cysylltiadau rhwng Cymru a Lesotho ym meysydd addysg, iechyd, llywodraethu a chymdeithas sifil sydd â'r gallu i newid bywydau.
Mae Lesotho, sydd wedi cael ei enwi gan y Cenhedloedd Unedig yn wlad lleiaf datblygedig lle mae dros draean o'i phoblogaeth yn dioddef o HIV/AIDS, ac mae eu disgwyliad oes yn llai na 40 mlynedd ar gyfartaledd, angen cymorth, hyfforddiant a datblygiad addysgol.
Gallwch chi ddod yn rhan o'n cysylltiadau ag Ysgolion, ein Rhaglenni Lleoli Athrawon yn Lesotho a llawer mwy.
Ein Noddwr Brenhinol, Tywysog Harry
Mae Dolen Cymru yn un o ddim ond chwech elusen sy'n ddigon ffodus i gael Tywysog Harry yn Noddwr iddynt.