-

Gallwch chi gefnogi ein gwaith

Image

Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho (RhLlAL)

Mae’r Rhaglen Lleoli Athrawon yn rhoi’r cyfle i athrawon cymwysedig o Gymru weithio mewn ysgol yn Lesotho am 6 neu 12 mis. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar rannu sgiliau proffesiynol a gwella addysg yn Lesotho tra hefyd yn datblygu sgiliau’r athrawon o Gymru a rhoi profiad rhyngwladol unigryw iddynt sy’n cyfoethogi eu gwaith wedi iddynt ddychwelyd i Gymru.

Ers lansio’r rhaglen yn 2005 mae 30 o athrawon wedi gweithio yn Lesotho ar y Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho gan roi budd i dros 15,000 o ddisgyblion a dros 1,000 o athrawon. Ariannir y rhaglen gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i gefnogwyd gan y Cyngor Prydeinig a Gweinyddiaeth Addysg Lesotho.

I ddarllen am brofiadau’r athrawon yn Lesotho cliciwch yma.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am le ar y Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho os gwelwch yn dda cliciwch yma.

All Site Content ©2012 Dolen Cymru
Site built by Cardiff Web Design, Cardiff Search Engine Optimisation and good cause fans, Clear Intent