Mewn partneriaeth gyda Mencap Cymru, mae Dolen Cymru yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n wynebu Lesotho ymhlith bobl gydag anhawsterau dysgu. Mae’r Prosiect Porth yn anelu at roi’r cyfle i bobl yng Nghymru sydd ag anhawsterau dysgu i ddysgu am ddiwylliant gwahanol tra’n codi ymwybyddiaeth o’r problemau difrifol a materion sy’n wynebu Affrica.
Bydd sesiynau hyfforddi ar gael ar draws Cymru i gynrychiolwyr o’r clybiau porth er mwyn caniatáu i’r rheiny gydag anhawsterau dysgu a’u cefnogwyr ddatblygu eu gwybodaeth am amrywiaeth byd-eang.
Mae pecynnau gweithgareddau ar gael. Pe baech yn hoffi cymryd rhan neu archebu pecyn gweithgareddau os gwelwch yn dda cysylltwch â ni.