Ar hyn o bryd mae Dolen Cymru yn gweithio er mwyn denu pobl ifanc i ymwneud â’u prosiectau a chysylltiadau gyda Lesotho. Rydym ar fin sefydlu Fforwm Ieuenctid Cymru er mwyn cyd-weithio â Fforwm Ieuenctid Lesotho.
Mae Dolen Cymru yn gobeithio ffurfio perthnasau a chysylltiadau rhwng pobl ifanc y ddwy wlad a datblygu eu dealltwriaeth o faterion rhyngwladol, gan ddefnyddio eu hegni i ddylanwadu ar y ffordd y bydd y cyswllt rhwng Cymru a Lesotho yn datblygu yn y blynyddoedd i ddod.
Pe baech yn hoffi ymwneud â’n gwaith ieuenctid cysylltwch os gwelwch yn dda neu ymunwch â’n grŵp facebook!
DIWRNOD DIGWYDDIAD GWEITHREDU IEUENCTID
Teithiodd bobl ifanc o dros Gymru gyfan er mwyn mynychu ein diwrnod gweithredu’r ieuenctid yng nghanolfan y Mileniwm. Nod diwrnod gweithredu ieuenctid oedd darganfod sut yr oedd pobl ifanc eisiau ymwneud mwyfwy â Dolen Cymru. Roedd gan y bobl ifanc a fynychodd ddiddordeb mewn cychwyn pwyllgor ieuenctid sy’n golygu y byddant yn llysgenhadon ac yn cynghori Dolen Cymru am ei ddyfodol. Syniadau: