-

Gallwch chi gefnogi ein gwaith

Image

Ysgolion Cyswllt

Mae Dolen Cymru yn gyfrifol am 70% o’r cysylltiadau rhwng ysgolion yng Nghymru ac Affrica, gan gyrraedd dros 40,000 o ddisgyblion Cymreig gyda’n gwaith yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae gan yr ysgolion cyswllt gyfle i arwain y ffordd wrth ddatblygu pentref byd-eang. Mae cyfnewid syniadau, llythyrau, gwerthoedd a phrosiectau yn ogystal â’r cyfle i gymryd rhan mewn ymweliadau cyfatebol wedi galluogi plant y ddwy genedl i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o faterion rhyngwladol ac wedi caniatáu i gyfeillgarwch rhyngwladol ddatblygu gyda rhyngweithio cydfoddhaol.

Mae Dolen Cymru yn gweithio gyda nifer o ysgolion sy’n esiamplau ardderchog o sut y gall cysylltiadau rhyngwladol roi budd a chyfoethogi Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Byd-Eang (ADCDB) yn y cwricwlwm a mewnosod yr ethos yn y gymuned ehangach. Drwy roi’r cyfleoedd hyn o gydweithio rhyngwladol gallwn nid yn unig gynnig yr addysg gorau posib i blant yng Nghymru a Lesotho ond gallwn hefyd roi’r cyfle iddynt ddatblygu gwell ddealltwriaeth o’r byd ehangach a’u rôl nhw ynddo fel dinasyddion byd-eang.

CYSYLLTWCH EICH YSGOL


Ymweliadau Cyfatebol

Mae Dolen Cymru yn gweithio gyda’r Cyngor Prydeinig i alluogi ysgolion cyswllt i gyfnewid staff dysgu a disgyblion fel rhan o Gynllun Partneriaeth Ysgolion Byd-Eang yr ADRh (PYB). Fel rhan o’r cyfnewid unigryw hwn byddwch yn aros gyda chydweithiwr o’ch ysgol cyswllt a byddwch yn treulio amser yn yr ysgol yn gweithio ar brosiect cydgwricwlaidd ar thema fyd-eang benodol. Mae Dolen Cymru yn cefnogi ysgolion ymhob agwedd o’r cynllun PYB ac rydym yn hwyluso dros 30 taith gyfnewid bob blwyddyn.

Ymwelwch â’ch Ysgol Gyswllt

All Site Content ©2012 Dolen Cymru
Site built by Cardiff Web Design, Cardiff Search Engine Optimisation and good cause fans, Clear Intent