Ein Gwaith - Dolen Cymru -

Gallwch chi gefnogi ein gwaith

Image

Ein Gwaith

Drwy adeiladu ar sgiliau, achub bywydau a chysylltu pobl, mae gwaith Dolen Cymru yn parhau i fod yn allweddol yn y broses ddatblygu fyd-eang.

Rydym yn canolbwyntio ar bedwar prif faes – addysg, iechyd, cymdeithas sifil a llywodraethu – ac mae ein hymwneud â chymaint o agweddau ar y gymdeithas yn ein gosod mewn sefyllfa unigryw.

Drwy weithio’n agos gyda sector eang o gymdeithas yng Nghymru ac yn Lesotho rydym yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol cynaliadwy i fywydau pobl.  Cryfder mwyaf Dolen Cymru yw ein bod yn dibynnu ar ddatblygu cysylltiadau rhwng pobl ac yn annog sefydliadau ac unigolion i weithio ar y cyd, boed yn weithwyr iechyd, yn athrawon neu'n seneddwyr.  Wrth gyd-weithio â phobl Cymru rydym hefyd yn datblygu’r sgiliau a’r agweddau y mae ar Gymru eu hangen er mwyn ymateb i’r heriau mewn cymdeithas sy’n mynd yn fwyfwy byd-eang.

 

Gwaith Iechyd

Mae ein Cysylltiadau Iechyd yn hanfodol i reolaeth y strwythur iechyd yn Lesotho ac wrth frwydro yn erbyn yr epidemig AIDS/HIV.

 


Gwaith Addysgol

Gyda llai na chwarter y plant sy’n cychwyn yn yr ysgol gynradd yn Lesotho yn mynd ymlaen i’r ysgol uwchradd, mae addysg wastad wedi bod yn ganolog yng ngwaith Dolen Cymru.

 

All Site Content ©2012 Dolen Cymru
Site built by Cardiff Web Design, Cardiff Search Engine Optimisation and good cause fans, Clear Intent