- Teaching visits to Lesotho

Gallwch chi gefnogi ein gwaith

Image

a:1:{s:7:"content";s:6402:"

Ymweliadau Cyfatebol

A oes cyswllt rhwng eich ysgol chi â Lesotho? Ydych chi eisiau cael profiad o Lesotho o lygad y ffynnon?

Mae Dolen Cymru yn gweithio gyda’r Cyngor Prydeinig i alluogi ysgolion cysylltiedig i gyfnewid staff addysgu fel rhan o Gynllun Partneriaeth Ysgolion Byd-eang (GSP) y DFID.

Fel rhan o’r rhaglen gyfnewid unigryw hon, byddwch yn lletya gyda chydweithiwr ac yn treulio amser yn yr ysgol yn gweithio ar brosiect cwricwlaidd ar y cyd ar thema sydd â dimensiwn byd-eang penodol.

Gall tri chlwstwr (neu grwpiau sy’n agos yn ddaearyddol) o bedair ysgol wneud cais am grant o £2000 i dalu i athro o bob ysgol yng Nghymru ac yn Lesotho dreulio o leiaf wythnos yn eu hysgol gyswllt.


Sut ydym ni’n chwarae rhan?

Mae Dolen Cymru yn trefnu’r ymweliadau hyn drwy ddewis yr ysgolion ar gyfer pob clwstwr, gan sefydlu cyfathrebu rhwng yr ysgolion fan hyn yng Nghymru ac yn Lesotho, a chan gynghori ar lenwi ffurflen gais GSP y Cyngor Prydeinig.

Rydym hefyd yn darparu sesiynau briffio i athrawon cyn yr ymweliadau, gan gynnig cymorth i’r athrawon cyn gadael ac yn ystod yr ymweliad nôl, gan drefnu teithio a llety gwesty yn Lesotho os oes eu hangen, trefnu’r teithiau awyr i Lesotho a nôl, helpu athrawon Basotho i gael eu pasbortau a’u teithebau a chynnal gwerthusiad o bob ymweliad.

Mae hwn yn gyfle arbennig i bob athro. I gymryd rhan, cysylltwch â ni ar 02920 497390 neu anfonwch neges e-bost atom yn swyddfa@dolencymru.org.

Es i nôl i’r ysgol ac rwy’ heb dewi â sôn am Lesotho! Cefais amser gwych hefyd, diolch i bawb am wneud hwn yn un o amseroedd mwyaf cofiadwy fy mywyd.

Rhian Jones, Ymweliad Cyfatebol Chwefror 2009


Roedd hi’n syfrdanol pa mor gyfeillgar a charedig oedd y bobl. Mae’n anodd credu fy mod yno'r adeg hon yr wythnos diwethaf. Roedd yn brofiad hollol arbennig y byddaf yn ei wneud eto dw i’n siŵr. Diolch i chi am eich holl help cyn i ni adael, ni fyddai hyn wedi digwydd heboch chi!

Elizabeth Scarlett, Ymweliad Cyfatebol Chwefror 2009

 

 

";}

All Site Content ©2012 Dolen Cymru
Site built by Cardiff Web Design, Cardiff Search Engine Optimisation and good cause fans, Clear Intent