Gallwch ddod yn aelod o Dolen Cymru a chefnogi ein gwaith hanfodol yng Nghymru ac yn Lesotho.
Pan fyddwch yn dod yn Aelod o Dolen Cymru Lesotho byddwch nid yn unig yn cefnogi gwaith Dolen a’n sefydliad partner, Laquama Le Wales (Dolen Cymru Lesotho), ond byddwch hefyd yn derbyn cylchlythyr dwywaith y flwyddyn ar waith Dolen, yn cael diweddariadau rheolaidd am unrhyw apeliadau, ddigwyddiadau neu newyddion ac yn cael gwahoddiad i fynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
I ymuno, llwythwch un o’r ffurflenni aelodaeth isod i lawr ac anfon y ffurflen wedi’i llenwi atom, ynghyd â’ch tâl aelodaeth. Dim ond £10 y flwyddyn yw cost aelodaeth i unigolyn, neu £15 ar gyfer aelodaeth deuluol. Os hoffech ymuno fel Ysgol, Elusen neu Fudiad, dim ond £20 y flwyddyn yw’r gost.
Cliciwch isod i lwytho’r Ffurflen Gais Briodol i lawr
Ffurflen Aelodaeth Eglwys neu Gapel