Darllenwch fwy am brofiad gefeillio Ysgol Gynradd Glyncoed gyda Lesotho.
A yw eich ysgol yn dymuno archwilio themâu sydd â dimensiwn byd-eang drwy gyfrwng partneriaeth ddysgu gydag ysgol yn Lesotho? Gallwch gynnig cyfleoedd go iawn i chi a’ch disgyblion gyfranogi fel dinasyddion byd-eang drwy ffyrdd arloesol o ddysgu. Beth am gymryd rhan fel ysgol?! Gallwch gysylltu’ch ysgol chi nawr, dim ond trwy lwytho’r ffurflen gais isod i lawr.