-

Gallwch chi gefnogi ein gwaith

Image

Apêl 25

Mae Apêl 25 wedi'i chynllunio i godi ymwybyddiaeth o'r problemau y mae Lesotho yn eu hwynebu ac yn y pen draw, i godi £250,000 erbyn 2010, sef ein pen-blwydd yn 25 oed, er mwyn adeiladu Canolfan Cymru fodern yn y brifddinas maseru.

CANOLFAN CYMRU

Pam adeiladu Canolfan Cymru yn Lesotho?

Trwy Ganolfan Cymru, byddai pobl Cymru yn cynnig cyfleoedd meithrin gallu a hyfforddiant mawr eu hangen i weithwyr allweddol yn y sectorau iechyd, addysg, gwirfoddol a chyhoeddus. Bydd yn gartref i staff o Gymru a staff sy'n cael eu cyflogi'n lleol, a hefyd yn ganolfan i'n gweithgareddau yn Lesotho.

 

Beth fydd yng Nghanolfan Cymru?

Llyfrgell adnoddau

    • Cyfleusterau llety byrdymor a hirdymor
    • Ystafell TG
    • Cyfleusterau hyfforddi
    • Cyfleusterau fideo-gynadledda
    • Swyddfeydd
    • Gardd lysiau a gardd fasnachol
    Manteision Canolfan Cymru:
    • Cyfle i bobl yn Lesotho ddysgu sgiliau newydd.
    • Hyfforddiant mewn nifer o feysydd gwahanol, fel Lletygarwch.
    • Y cyfle i ddatblygu sgiliau cynaliadwy fel rhan o ateb hirdymor i’r problemau y mae Lesotho yn eu hwynebu.
    • Bydd rhaglenni hyfforddi’n cynnwys sgiliau cyfrifiadurol, cyrsiau rheoli, sgiliau byw’n annibynnol a sgiliau garddwriaethol. Yn benodol, bydd y sesiynau hyfforddi’n cael eu teilwra i fodloni anghenion pobl anabl, gan ganiatáu iddynt ennill sgiliau gwerthfawr a’u galluogi nhw i sicrhau cyfleoedd am waith
    • Menter gymdeithasol arloesol a fydd yn ysbrydoli partneriaethau a chydweithio creadigol ymhob rhan o’r gymdeithas.

Sut gallwch chi helpu?

Ymunwch â Chlwb 1000

Cyfrannwch at Apêl 25

Codwch arian at Apêl 25

Rydym angen eich cefnogaeth i’n helpu ni i gyrraedd ein targed!

 

 

 

All Site Content ©2012 Dolen Cymru
Site built by Cardiff Web Design, Cardiff Search Engine Optimisation and good cause fans, Clear Intent