-

Gallwch chi gefnogi ein gwaith

Image

 


Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho (RhLlAL)

Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho

– Gwnewch gais nawr!

Mae Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho bellach yn dod i’w phedwaredd flwyddyn ac mae hon yn rhaglen datblygu proffesiynol uchel ei pharch ar gyfer athrawon Cymru. Mae’r rhaglen yn cael ei chynnal gan Dolen Cymru gyda chefnogaeth y Cyngor Prydeinig ac fe’i hariennir gan Adran Plant, Addysgu, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Dyma raglen leoli wirfoddol chwe mis i athrawon cymwys neu newydd gymhwyso sy’n dod o Gymru, sy’n gweithio yng Nghymru neu a gafodd eu hyfforddi yng Nghymru. Darllenwch fwy am brofiadau athrawon yn Lesotho!

Mentor neu Athro?


Mae Dolen Cymru yn chwilio am pump unigolyn

i ymgymryd â swyddi Athrawon ar y rhaglen, ac un unigolyn i ymgymryd â swydd Mentor ar gyfer y grŵp. Y Mentor yw goruchwyliwr Dolen Cymru ar lawr gwlad a bydd yn gyfrifol am sicrhau iechyd a lles gweddill y grŵp yn ystod y rhaglen, ynghyd â chefnogi eu datblygiad proffesiynol. Yn ddelfrydol, bydd y Mentor yn unigolyn sydd â dros 3 blynedd o brofiad addysgu, gyda phrofiad o addysgu mewn gwlad sy’n datblygu ac o reoli/mentora pobl eraill.

Nid yw swydd y Mentor yn cael ei thalu, ond mae’r Mentor yn cael cyflog (stipend) uwch na’r athrawon eraill (£1000 y mis) er mwyn cydnabod y cyfrifoldeb ychwanegol fydd ganddo. Rydym yn chwilio am unigolyn hyderus a medrus sydd â gallu cyfathrebu a threfnu da i ymgymryd â’r swydd hon. Bydd y Mentor yn cael cefnogaeth yn y wlad gan Dolen Cymru Lesotho ac yn cael ei reoli o Gymru.

Bydd disgwyl i’r Mentor weithio 3-4 diwrnod mewn ysgol leol fel y byddai athro yn ei wneud, ond byddai’n neilltuo’r diwrnod neu’r deuddydd arall yr wythnos ar gyfer goruchwylio a chefnogi’r athrawon eraill drwy ymweliadau ag ysgolion neu gartrefi, neu drwy deithio gyda nhw ar ymweliadau sy’n ymwneud ag iechyd neu weinyddu e.e. i adnewyddu teitheb. Mae croeso i chi lwytho ffeil dyletswyddau’r mentor a’r fanyleb person i lawr i gael mwy o fanylion am swydd y mentor.

Cymhwysedd

I fod yn gymwys i wneud cais ar gyfer y rhaglen hon, mae angen i chi:
· Fod yn athro cymwys sy’n addysgu mewn ysgol yng Nghymru
· Neu fod yn athro-fyfyriwr sy’n hyfforddi yng Nghymru ar hyn o bryd, ac a fydd wedi cymhwyso erbyn mis Medi eleni
· Meddu ar basport dilys (rhaid i basportau fod yn ddilys am o leiaf 6 mis cyn mynediad)
· Gallu ymdopi ag amodau sy’n wahanol iawn i amodau yn y DU
· Bod mewn iechyd corfforol a meddyliol da

Cyflog a Buddion

Bydd disgwyl i chi fynychu dau gwrs hyfforddiant yng Nghymru cyn hedfan i Lesotho ym mis Ionawr
· Bydd Dolen Cymru yn cynnig cefnogaeth yn y wlad drwy fentor y grŵp a thrwy ei fudiad partner ym Maseru
· Bydd y cyfranogwyr yn cael cyflog o £600 y mis, a fydd yn fwy na digon i dalu am lety a bwyd. Y cyflog cyfartalog ar gyfer athro yn Lesotho yw tua £200 - £250 y mis. Dylech ddisgwyl byw ar tua £350 y mis.
· Bydd yr athro mentor ar y rhaglen yn cael cyflog o £1000 y mis.
· Bydd tocyn dwyffordd i’r DU yn cael ei ddarparu i bob cyfranogwr sy’n cwblhau’r lleoliad 6 mis, ynghyd ag yswiriant llawn.
· Bydd Dolen Cymru yn trefnu’r teithiau awyren, cludiant yn y wlad, llety, lleoliad ysgol, sesiynau briffio, cefnogaeth yn y wlad ac yswiriant.

I gael mwy o fanylion, ewch i’n tudalen cwestiynau cyffredin

Cliciwch ar y dolenni i lwytho disgrifiad swydd a ffurflen gais i lawr!


Disgrifiad Swydd Athro

Ffurflen Gais Athro

  

 

 

 

";}

All Site Content ©2012 Dolen Cymru
Site built by Cardiff Web Design, Cardiff Search Engine Optimisation and good cause fans, Clear Intent