Gallwch gymryd rhan mewn nifer o brosiectau Dolen Cymru beth bynnag yw eich oedran, diddordebau neu ddoniau! Mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n gwaith ni.
P’un ai ydych chi’n codi arian gyda’ch cwmni neu drwy eich ysgol neu Brifysgol, yn trefnu eich digwyddiad eich hun i godi arian neu yn awyddus i gymryd rhan yn un o’n prosiectau ni, mae ‘na nifer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan.
Un o’r ffyrdd mwyaf syml y gallwch ein helpu yw drwy wneud cyfraniad. Does yr un swm y gallwch ei gyfrannu yn rhy fach a gallwch fod yn sicr eich bod yn gwneud gwahaniaeth i Lesotho nid yn unig heddiw ond ar gyfer y blynyddoedd i ddod.