Mae Dolen Cymru yn deall pwysigrwydd addysg fel arf i greu dealltwriaeth a goddefgarwch, er mwyn codi pobl o dlodi ac er mwyn creu dinasyddion byd-eang gweithgar. Gyda dim ond chwarter plant ysgol gynradd Lesotho yn mynd yn eu blaenau i addysg uwchradd, mae nifer o heriau i’w wynebu.
Mae Dolen Cymru yn cefnogi ysgolion ac addysgwyr yng Nghymru ac yn Lesotho mewn nifer o wahanol ffyrdd. Mae’r rhain yn amrywio o’n Rhaglen Lleoli Athrawon yn Lesotho, sy’n caniatáu i athrawon o Gymru weithio mewn ysgolion yn Lesotho am 6-12 mis, i’n rhaglenni cysylltu ysgolion yng Nghymru sy’n creu cysylltiadau cynaliadwy ag ysgolion yn Lesotho. Mae ein holl waith addysgol yn anelu at ddatblygu cysylltiadau hirdymor a all wneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl yng Nghymru ac yn Lesotho.
Mae’r Rhaglen Lleoli Athrawon yn rhoi’r cyfle i athrawon cymwysedig o Gymru weithio mewn ysgol yn Lesotho am 6 neu 12 mis.
Cysylltu Ysgolion ac Ymweliadau Cilyddol
Mae gan ysgolion yng Nghymru a Lesotho gyfle i arwain y ffordd mewn datblygiad pentref byd-eang.
Prosiect Gweithredu Ieuenctid (PGI)
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio er mwyn denu mwy o bobl ifanc i ymwneud â’n prosiectau a chysylltiadau gyda Lesotho.
Mewn partneriaeth gyda Mencap Cymru, mae Dolen Cymru yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n wynebu Lesotho ymhlith bobl gydag anhawsterau dysgu.